Rydych yma : Hafan > Hafan Ystradgynlais

Creu dyfodol gwell i Ystradgynlais

Creu dyfodol gwell i Ystradgynlais.

Pentref ym mlaen Cwm Tawe yw Ystradgynlais. Yn ôl y mynegrifau amddifadedd roedd yn un o 100 o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.

Tom AddeySefydlwyd rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yno yn 2000. Mae partneriaeth ffurfiol wedi'i chreu yn awr, gyda Tom Addey (ar y dde) yn cydlynu.

  • Gweledigaeth ac Amcanion
  • Cefndir
  • Gweithgareddau
  • Strwythur cyfreithiol
  • Cynlluniau
  • Canlyniadau
  • Datblygiadau i ddod
  • Crynodeb.

Cysylltwch â ni

Tom Addey
Cyfeiriad: Cymunedau yn Gyntaf Ystradgynlais, 6 Heol Commercial, Ystradgynlais, Powys.
Ebost: tomaddey@powys.gov.uk
Ffôn: 01639 845051

Brig

Ein gweledigaeth

Yw datblygu cymuned hunangynhaliol sy'n gweithio'n dda, a lle bo pobl o bob oed yn cydweithio i sicrhau fod ei thrigolion yn fawr eu gofal, goddefgar, iach, medrus ac â'u bryd ar y dyfodol - lle yr ydym yn falch o gael byw ynddo.

Amcanion

Yr amcan cyffredinol yw:-

"Meithrin a chryfhau adfywio economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cymuned Ystradgynlais a Blaen Cwm Tawe"

Gobaith y bartneriaeth hefyd yw:

  • cynyddu hyder a hunanbarch trigolion y gymuned
  • datblygu diwylliant cyflawni
  • annog hyfforddi sgiliau ar gyfer gweithio
  • creu cyfleoedd gwaith
  • cynyddu incwm yn yr ardal
  • gweithredu i wella tai a'r amgylchedd o gwmpas
  • hybu iechyd a lles drwy fyw bywydau gweithgar a iach a datrys materion eraill sy'n effeithio ar iechyd pobl
  • creu mwy o ddiogelwch o fewn ein cymuned
  • hybu chwaraeon, cyfleusterau a gweithgareddau diwylliannol ac adloniadol
  • gweithredu drwy bartneriaeth.

Brig

Cefndir

Datblygodd y pentref a'r ardal oddi amgylch o ganlyniad i'r diwydiannau glo a dur. Dechreuodd y rhain ddirywio yn y 1970au a chau fu hanes pob un erbyn diwedd yr 80au. Oddeutu diwedd y 1990au, collwyd 1500 o swyddi ychwanegol pan gaewyd ffatrïoedd Lucas SEI a Dewhirst. Bu effaith hefyd yn sgîl colli swyddi yn y diwydiant petrocemegol ymhellach i'r de.

Mae problemau'r ardal yn amlwg - gweithgarwch economaidd isel, llawer o ddiweithdra, graddfeydd uchel o afiechyd tymor hir, pobl ifanc yn ymadael i chwilio am gyfleoedd oddi cartref ac olion gweithgarwch diwydiannau'r gorffennol ar y tirlun.

Brig

Gweithgareddau

Ffurfiwyd grwp llywio i ddechrau gyda 18 o bobl oedd yn cynrychioli'r gymuned a busnesau lleol yn ogystal â'r Awdurdod Lleol.

Penodwyd Hwylusydd ym mis Mawrth 2002.

Agorwyd Canolfan Cymunedau yn Gyntaf yn Commercial Street, Ystradgynlais (yng nghanol y dref) ar Awst 31 2002.

Ym mis Mai 2002 dechreuwyd ymgynghoriad ar 'Gynllunio ar gyfer ein cymuned'. Pwrpas hyn oedd annog trigolion o bob oed i gyflwyno syniadau ac awgrymiadau ar gyfer gwella cymuned Ystradgynlais a'r cylch.

Brig

Strwythur cyfreithiol

Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Ystradgynlais yn Gwmni Cyfyngedig gan Warant. Mae i'r bartneriaeth fwrdd gyda 14 o gyfarwyddwyr a thri aelod o Awdurdod Datblygu Cymru, Cymdeithas Cyrff Gwirfoddol Powys a Chyngor Sir Powys nad ydynt yn gyfarwyddwyr. Enw swyddogol y bartneriaeth yw Cymunedau yn Gyntaf Ystadgynlais Cyfyngedig.

Cynhelir cyfarfod cyhoeddus bob mis gan y cwmni a bu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mehefin 2004, pan etholwyd aelodau i'r bwrdd.

Rydym nawr yn ceisio am statws elusen.

Brig

Cynlluniau

Trafodir ychydig o'r cynlluniau isod (pwysleisiwyd rhai o'r materion y rhoddodd y cynlluniau hyn sylw iddyn nhw gan drigolion lleol yn y digwyddiad ymgynghori).

Fforwm Hyfforddiant

Mae'r fforwm wedi dod â'r holl ddarparwyr hyfforddiant lleol ynghyd ac wedi creu cyfeiriadur i gyrsiau hyfforddi sydd ar gael o fewn y gymuned. Cynhyrchir llyfryn bob tymor, i roi gwybod i'r gymuned am y cyrsiau sydd ar gael, a'u lleoliad.

Cyfeiriadur cyrff lleol

Bu Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf, prosiect Triongl a'r Canolfan Gwirfoddolwyr yn cydweithio i gynhyrchu cronfa ddata sy'n cwmpasu holl gyrff a grwpiau lleol yr ardal. Mae'r gronfa'n cynnwys 170 o gyrff ac yn cael ei diweddaru'n chwarterol. Sefydlwyd grwp cyfathrebu er mwyn sicrhau mwy o gyfathrebu rhwng yr holl grwpiau a geir yn y gymuned.

Cynnwys pobl ifanc

Bu cynnwys ieuenctid yn bwnc allweddol yn Ystradgynlais a gweithredwyd nifer o gynlluniau mewn partneriaeth â'r gwasanaeth Ieuenctid, Cyngor y Dref, Ymddiriedolaeth y Tywysog, Heddlu Dyfed Powys a grwpiau eraill. H.y. Parc Sglefrfyrddio a Llwybrau Diogel i'r Ysgol. Enillodd y ddau yma Wobrau Cenedlaethol yn ddiweddar

Canolfan byw'n iach

Agorwyd Canolfan Octopws ym mis Ionawr 2003. Mae hon yn darparu canolfan ar gyfer pob oedran, gan helpu i bobl ddatblygu ffyrdd mwy iach o fyw drwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau.

Gwella llwybrau lleol

Mae'r bartneriaeth yn gweithio gyda'r Comisiwn Coedwigaeth, Cymdeithas Cerddwyr Tawe, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Tref Ystradgynlais a Chyngor Sir Powys i wella llwybrau lleol yr ardal ac agor llwybrau newydd yn y rhanbarth.

Gweithgareddau eraill

Ceir nifer o fforymau sy'n ymdrin â materion penodol, yn eu mysg:

  • Grantiau - cyfrwng gwybodaeth ynglyn â nawdd ar gyfer grwpiau cymunedol
  • Cyfathrebu
  • Amgylcheddol
  • Iechyd
  • Cynhwysiad Cymdeithasol - gweithio gyda'r gymdeithas trigolion a gwasanaethau cymdeithasol

Brig

Canlyniadau

Isod ceir crynodeb o gyfran yn unig o'r rhain:-

  • Cafwyd cyfraniad brwd mwy na 1000 o aelodau o'r gymuned ar gyfer ymgynghoriad ystyrlon
  • Datblygu Canolfan Byw'n Iach a rhaglenni iechyd
  • Sefydlu Partneriaethau Allweddol i weithredu cynlluniau
  • Ffair Iechyd Flynyddol
  • Parc Sglefrfyrddio ar gyfer y Canolfan Ieuenctid
  • Rhaglen o Ddigwyddiadau Cymunedol: Gwyl yr Ystrad a digwyddiadau lleol eraill e.e. Goleuadau Nadolig
  • Meithrin Gallu'r Gymuned (yn bresennol drwy gydol cyfnod y cynlluniau cymunedol uchod)

Datblygiadau i ddod

  • Ffurfio Fforwm Treftadaeth a Fforwm Chwaraeon a Hamdden
  • Ymgymryd â mwy o gyfrifoldeb e.e. Cynnal astudiaeth dichonoldeb lawn ar Glwb Astoria/Cue gan ystyried ei brynu a'i ddefnyddio fel safle cymunedol.
  • Ymgorffori'r Fforymau i gyd o fewn cwmnïau
  • Datblygu cyfraniad y bobl ifanc
  • Parhau gyda'r gwaith ymgynghori a datblygu cynllun gweithredu newydd

Materion allweddol i ddod

  • Rhaid i ni sicrhau ein bod yn cynnal cydbwysedd disgwyliadau'r gymuned, er mwyn parhau i dderbyn cefnogaeth y gymuned
  • Mae cynaladwyedd ein nawdd yn bwysig - canlyn cronfeydd nawdd yn hytrach na nawdd yn llifo i'n coffrau
  • Parhau gyda meithrin a chefnogi gallu'r gymuned
  • Ymffurfio'n endid sy'n perthyn i'r gymuned
  • Parhau i annog a gweithio mewn Partneriaeth â Grwpiau/Cyrff eraill.
  • Sicrhau fod cyrff Statudol megis Awdurdod Datblygu Cymru ac Elwa yn cyfrannu'n llawn ar y lefel waelodol.

Crynodeb

Mae llawer o waith da wedi'i gyflawni. Yn ôl ymateb a gafwyd gan y gymuned, roedd gwir angen y gwaith yma ac fe'i gwerthfawrogir yn fawr.

Bu parodrwydd i weithio mewn partneriaeth â nifer o asiantaethau allweddol yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol yn allweddol i lawer o'r llwyddiant

Mae Ystradgynlais wedi cymryd camau bras tuag at y nod o adfywio ei hun, ac mae cynlluniau gan y dref i gymryd llawer mwy yn y dyfodol.

Thomas Addey
Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Ystradgynlais.

Brig

Y Newyddion Diweddaraf