Hyfforddiant
Mae ’na wastad gwerth o ennill sgiliau a galluoedd newydd, beth bynnag fo sefyllfa partneriaethau a grwpiau cymunedol, yn enwedig y rhan sy’n berthnasol i dyfiant a llwyddiant grwpiau cymunedol. Oherwydd hyn, mae hyfforddiant ar gael gan ystod o fudiadau i ddiwallu anghenion ymddiriedolwyr, gwirfoddolwyr, gweithwyr datblygu, rheolwyr, a swyddogion cyllid grwpiau gwirfoddol a chymunedol.
Am fwy o fanylion, cysylltwch â Swyddog Cyswllt Cymunedau yn Gyntaf Powys ar 01686 626220, neu e-bostiwch: rebecca.colpus@pavo.org.uk neu, gellir cysylltu â’r mudiadau canlynol:
Er bod rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ar fynd ers 7 mlynedd bellach, mae dal bwlch o safbwynt yr wybodaeth a dealltwriaeth am y rhaglen, ac ardaloedd penodol Powys, ymysg y cyhoedd, grwpiau gwirfoddol, busnesau ac asiantaethau statudol. Oherwydd hyn, mae rhaglen fer o hyfforddiant i esbonio ac arddangos rhaglen a gweithgareddau Cymunedau yn Gyntaf ym Mhowys yn cael ei llunio gan Swyddog Cyswllt Cymunedau yn Gyntaf Powys. Bydd y cwrs byr ar gael i asiantaethau statudol cyn bo hir.
Rhaglen yw hon a luniwyd yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Conwy, ac a ariannwyd gan Rwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf. Fe’i dyluniwyd i helpu asiantaethau statudol i ddeall sut i fod yn gynhwysfawr wrth ddelio gyda’r cyhoedd a’r gymuned, yn enwedig yn y ffordd maent yn cyflenwi gwasanaethau. Fe’i hysgrifennwyd yn arbennig i gynghorau lleol, ac mae’n berthnasol hefyd i gyrff statudol eraill.
Am fwy o wybodaeth am y rhaglen, ewch at: http://www.communitiesfirst.info/UsefulResources/index.aspx?id=96
ac am wybodaeth ar sut y bydd yn cael ei chyflwyno ym Mhowys, cysylltwch â Swyddog Cyswllt Cymunedau yn Gyntaf Powys.
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys