Rydych yma : Hafan > Tu hwnt i'r ardal hon > Busnes a Chymunedau yn Gyntaf

Busnes a Chymunedau yn Gyntaf

 Busnes a Chymunedau yn Gyntaf

Mae busnesau yn rhan hanfodol o economi Powys. Mae Powys yn cael ei hystyried yn sir economi busnesau bach, gyda ffermio, twristiaeth, y sector gwasanaethau ac amrywiaeth o ficrofusnesau a masnachwyr unigol yn gwneud cyfraniad sylweddol, ochr yn ochr â chyflogwyr cyhoeddus mawr. Gall busnesau bach fod yn entrepreneuraidd ac yn arloesol iawn a dyma un o gryfderau Powys. Mae ’na synergedd da ymysg gyrwyr busnesau bach a Chymunedau yn Gyntaf. Mae’r ethos o gael hyd i atebion newydd i broblemau tymor hir yn gyffredin i’r ddau.

Mae gan fusnesau mawr ran i chwarae hefyd wrth helpu cymunedau i ddysgu mwy o sgiliau yn y meysydd y mae eu hangen ar fusnesau, er mwyn i fwy o bobl leol ddod o hyd i swyddi gwerth chweil yn eu cymunedau eu hunain.

Gall pobl fusnes felly wneud cyfraniad gwerthfawr, o safbwynt amser a phrofiad, i bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf – i’w helpu i ganolbwyntio ar ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen ar gyflogwyr a busnesau lleol i fynd i’r afael â phroblemau mewn dulliau newydd ac arloesol a helpu’r sectorau gwahanol o fewn cymdeithas i ddeall a chefnogi’r naill a’r llall.