Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Pobl Ifanc > Amdanom ni

Tudalennau Pobl Ifanc

Tudalennau Pobl Ifanc ...

Mae rhai cyfleoedd gwych yr ydym yn eu darparu ar eich cyfer yn Oldford.

 

Mae'r Get Going Gang yn cael ei chefnogi gan Cymunedau yn Gyntaf Oldford a chynhaliodd Gynllun Chwarae Haf yn 2007, a oedd yn llwyddiant mawr. Cafwyd tripiau i ffermydd, amgueddfeydd, y sinema a laser quest a llawer mwy o leoedd hefyd! Roedd y plant a aeth ar y tripiau wedi mwynhau'r sesiwn drymiau Affricanaidd, a ellid eu clywed o'r stad! Roedd y Dyn Anifeiliaid a ddaeth gyda nadroedd byw a phryfetach erchyll eraill yn ffefryn hefyd.

Mae’r Clwb Gwaith Cartref yn cael i’w gefnogi gan Gymunedau yn Gyntaf Oldford a Chymunedau @ Ei Gilydd. Mae o’n rhedeg bob Nos Lun o 4yh tan 6yh yn Ystafell Gymunedol Clwyd Alyn, mae’n cynnig cyfle i blant a phobl ifanc i ddal fynnu ai gwaith cartref a datblygu eu sgiliau cyfrifiadurol.

Mae ystod eang o ddulliau o gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau a phrosiectau cyffrous drwy Wirfoddoli.

Os oes gennych amser i laesu dwylo ac yr ydych yn teimlo'n ddiflas yn aml, neu rydych eisiau cymryd rhan mewn rhywbeth, yna mae gwirfoddoli yn ddewis ardderchog i chi. Byddwch yn gwneud ffrindiau newydd wrth wneud rhywbeth sydd o ddiddordeb i chi , neu'n bwysig i chi.