Ysgrifennwyd y rhan hon o'r safle gan bobl ifanc i bobl ifanc! 
Os oes rhywbeth yr hoffech ei weld ar y wefan a fyddai o ddiddordeb i unrhyw un rhwng 11 a 25 oed, gadwch i ni wybod a gallech wneud eich marc! 
Cysylltwch â ni gyda'ch syniadau neu ewch i'r dudalen "Holi Cwestiwn"
Action Camp 2009
Wyt ti rhwng 9 ac 16 oed?
Buaset ti’n hoffi mynd ar wersyll tri diwrnod rhwng 21ain – 23ain Gorffennaf, yna cael cyfle i fod yn rhan o brosiect cyffrous yn Llyn Fferm Hafren ar y 5 dydd Iau canlynol?
Digwyddiad gwersylla tri diwrnod yw Action Camp 2009 i bobl ifanc ledled Cymru. Mae’n rhoi cyflwyniad i rai o’r materion pwysig sy’n wynebu ein planed a’n poblogaeth mewn ffordd hwylus a chyffrous. Byddwn yn gwersylla ar safle Kiln Park sy’n perthyn i gwmni Haven yn Ninbych y Pysgod, lle ceir cyfle i gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau hwylus sy’n ymwneud â’n planed, yn ogystal â phrofi’r cyfleusterau cyffrous sydd ar gael yn y parc. Gan ein bod ni’n gwersylla, bydd pabell yn cael ei darparu, ond bydd angen i ti ddod â sach cysgu a dillad gwrth-ddðr gyda thi!
Ar y diwrnod 1af byddwn yn teithio lawr i Ddinbych y Pysgod ac yna cawn gymryd rhan mewn llawer o weithgareddau cyffrous gyda Thîm Action Camp. Ar yr 2ail ddiwrnod, cawn frecwast i gychwyn y diwrnod ac yna llawer mwy o weithgareddau ac amser yn Kiln Park. Yn olaf, ar y 3ydd diwrnod, byddwn yn treulio’r dydd naill ai yn Oakwood neu Heatherton cyn cychwyn ar ein ffordd adref.
Ar ôl dychwelyd i’r Trallwng , byddwn yn parhau i ddefnyddio’r hyn a ddysgwyd ar yr Action Camp, yn ein tref ni. Cewch gyfle i weithio gydag aelodau eraill o’r tîm ar nifer o brosiectau gwahanol megis gwneud biniau compost pren, cymryd rhan mewn prosiect celf, gwneud gwaith cynnal a chadw, a chynllunio diwrnod agored a helpu rhedeg y diwrnod y Llyn Fferm Hafren.
Mae’r prosiect hwn yn edrych yn wych, a chewch gyfle i ddangos eich sgiliau i’r gymuned yn y Diwrnod Agored. Ein gobaith yw gorffen y prosiect gyda noson o Ddathlu/Gwobrwyo. Cynhelir y dyddiau prosiect rhwng 10am – 4pm ar 30ain Gorffennaf, 6ed, 13eg, 20fed a 27ain Awst.
Y gost i fynd ar y gwersyll yw £30 (a bydd angen arian poced). Mae’r pris yma’n cynnwys llety, bwyd (ar wahân i bryd o fwyd ar y ffordd adref), gweithgareddau, Gwobr a Thystysgrif ASDAN, tocyn adloniant a mynediad i naill ai Oakwood neu Heatherton.
Does dim cost i’r prosiect olynol yn y Trallwng – dim ond bocs brechdanau fydd ei angen bob dydd.
Ar ôl gorffen y prosiect cyfan, telir £15 i gyfrif gydag Undeb Credyd Robert Owen yn dy enw di.
Os hoffet ti gael d’ystyried i gymryd rhan yn y prosiect cyffrous hwn, dylid cwblhau’r ffurflen amgaeedig a’i dychwelyd atom erbyn 19eg Mehefin, 2009.
Os oes gan eich rhieni/gwarcheidwaid unrhyw gwestiynau, neu os am wybod mwy, croeso i chi gysylltu â ni ar 556648.
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys