Cynllun Gweithredu Cymunedol
Cynllun tair blynedd yw hwn, dan arweiniad y gymuned, a lansiwyd yn swyddogol yn CCB Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Oldford ym mis Rhagfyr 2007.
Efallai eich bod chi hefyd wedi gweld ni yn y gweithdai a digwyddiadau amrywiol sydd wedi digwydd yn ystod 2007. Diben hyn oedd sicrhau ein bod yn derbyn sylwadau gan gynifer o bobl ac oedd yn bosibl, i helpu ni lunio cynllun gweithredu cymunedol Oldford ar gyfer 2008-2011.
Yn ystod 2007, aeth aelodau a staff partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Oldford allan i holi trigolion Oldford ynghylch eu blaenoriaethau o safbwynt newidiadau ar Oldford. Y nod yw y bydd y cynllun gweithredu cymunedol yn ymateb i’r anghenion a nodwyd, a byddwn angen cymaint o gymorth gan aelodau’r gymuned ag sy’n bosibl
Trwy gydol y broses mae trigolion Oldford wedi bod yn derbyn yr wybodaeth ddiweddaraf trwy Daflenni, hysbysebion a phosteri ac erthyglau rheolaidd ar y Cynllun Gweithredu Cymunedol yn Llais Oldford, y cylchlythyr cymunedol.
Nodwyd nifer fawr o bethau’n flaenoriaethau, dan y penawdau canlynol:
¨ Addysg a Hyfforddiant
¨ Troseddau a Diogelwch Cymunedol
¨ Yr Amgylchedd
¨ Y Gymuned
¨ Iechyd a Lles
Cliciwch yma i weld y Cynllun Gweithredu Cymunedol.
Os hoffech dderbyn gwybodaeth bellach ar y Cynllun Gweithredu Cymunedol, neu os hoffech fod yn rhan ohono, croeso i chi gysylltu â ni.
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys