Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Oldford Arlein > Course Details

Cyrsiau Hyfforddi


Cyflwyniad i Gyfrifiaduron

Amser: Dydd Mawrth, 10.00am – 12.00pm

Dyddiadau: 6ed Tachwedd 2007 – 4ydd Rhagfyr 2007

Lleoliad: Tŷ Emrallt, Ysgol Babanod Oldford


Ydych chi ofn defnyddio cyfrifiadur? Ydych chi angen gloywi eich sgiliau sylfaenol? Os mai ydw yw'r ateb i unrhyw un o'r ddau gwestiwn, yna mae'r cwrs hwn ar eich cyfer chi. Byddwch yn dysgu rhai termau cyfrifiadurol sylfaenol, sut i ddefnyddio llygoden a bysellfwrdd yn gywir, cael cyfarwyddiadau am sut i ddefnyddio Microsoft Office a sut i greu dogfennau syml.


Cyflwyniad i'r Rhyngwe ac e bost

Amser: Dydd Gwener, 10.00am – 12.00pm

Dyddiadau: 9fed Rhagfyr 2007 – 7fed Rhagfyr 2007

Lleoliad: Tŷ Emrallt, Ysgol Babanod Oldford 


Dysgwch sut i bori a chwilio'r Rhyngwe, anfon e bost a siopa ar lein. Bydd y cwrs hefyd yn eich dysgu sut i aros yn ddiogel ar y We a sut i gael hwyl!


Ffotograffiaeth Ddigidol i Ddechreuwyr

Amser: I'w drefnu

Dyddiad: I'w drefnu

Lleoliad: Tŷ Emrallt, Ysgol Babanod Oldford 


Bydd y cwrs hwn i ddechreuwyr yn dysgu sylfeini ffotograffiaeth ddigidol i chi. Bydd yn cynnwys chwe sesiwn tair awr a bydd yn arwain at achrediad RHCA. 


I gael gwybod mwy am unrhyw un o'r cyrsiau hyn neu i gadw lle, cysylltwch â Mandy Roberts ar 01938 556648 neu 07825 385028.


A oes unrhyw agweddau o waith cyfrifiaduron yr hoffech chi ddysgu mwy amdanynt? A fyddech chi'n hoffi dilyn cwrs nad yw'n cael ei gynnig ar hyn o bryd? Os oes, rhowch wybod i ni a gwnawn ein gorau i helpu.