Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Oldford Arlein

Oldford Arlein

Yn awr bod prosiect Oldford Arlein wedi dod i ben, rydym eisiau dweud "diolch yn fawr" wrth ein holl aelodau am eu cefnogaeth.

Cafwyd llawer o wahanol sesiynau i bob oedran: Syrffwyr Arian, Photograffi Digidol, Clwb Gwaith Cartref, Mynediad Agored, Cyflwyniad i Gyfrifiaduron, Hel Straeon Digidol, a Mwy!

Da iawn chi y rhai ohonch sydd yn awr yn gallu syrffio'r we heb gymorth, a chithau'r holl gyw-ffotograffwyr sydd wedi cael hwyl anfarwol yn defnyddio'r dechnoleg newydd.

 

 

 

Croeso i Oldford Arlein

 
Mae Oldford Arlein yn gweithio yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Oldford yn Y Trallwng. 

 
Mae'n galluogi aelodau'r gymuned i gael mynediad am ddim i'r dechnoleg ddiweddaraf, yn cynnwys cyfrifiaduron pen bwrdd a gliniaduron, y We a chamerâu digidol. 

 
Mae help, cefnogaeth a hyfforddiant anffurfiol ar gael i holl aelodau'r gymuned.

 
Gallwch ddod o hyd i fwy am ein gwaith yn yr adran Amdanom Ni.

 
Gallwch weld manylion yr hyfforddiant anffurfiol yr ydym yn ei gynnig yn yr adran Cyrsiau, ac mae gan yr adran Amserlen wybodaeth am bryd a lle y gallwch gael gafael ar Oldford Arlein.

 
Edrychwch ar yr adran Prosiectau am fanylion y prosiectau arbennig yr ydym yn eu cynnig a sut y gall y rhain fod o fudd i grwpiau a mudiadau Oldford.