Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Newyddion > Digwyddiad Cadw'n Iach a Diogel yn llwyddiant!

Digwyddiad Cadw'n Iach a Diogel yn llwyddiant!

7th Apr 2010

Digwyddiad Cadw’n Iach a Diogel

Llwyddiant mawr gyda dros 100 o bobl yn ymuno â ni!

Y Gymuned Weithgar oedd yn gyfrifol am drefnu’r digwyddiad hwyl hwn er mwyn hyrwyddo byw mewn ffordd iachus i’r gymuned. Cynhaliwyd y digwyddiad dros ddau ddiwrnod i hyrwyddo dulliau i wella iechyd a lles i deuluoedd ac oedolion.

 2010_keep_safe_and_well_032_200

Roedd gan fudiadau stondinau gwybodaeth ac arddangosfeydd, bagiau o nwyddau am ddim a digonedd o weithgareddau a gweithdai am ddim i bobl o bob oed.

 2010_keep_safe_and_well_026_200

Ddydd Sadwrn, 27ain bu’r plant a’u rhieni yn mwynhau sesiynau gwaith coed, dweud straeon, crefftau’r Pasg, crefftau plastr, gwneud smwddis ac amrediad o therapïau megis tylino’r pen mewn dull Indiaidd, ac Adweithedd. 

 2010_keep_safe_and_well_041_200      2010_keep_safe_and_well_037_200

Ddydd Llun 29ain, bu’r oedolion yn mwynhau printio bagiau, crefftau’r Pasg. Sesiynau trin traed, Cymorth Cyntaf, a therapïau megis paentio ewinedd a Thechneg Bowen.

Jayne Howe oedd wedi paratoi cinio, gan arddangos dulliau coginio iachus ar gyllideb, a choginio i un. Roedd ei chyri llysiau a’r chilli’n flasus iawn yn y tatws pob ar y dydd Sadwrn, a’r cawl llysiau’n boblogaidd iawn ar y dydd Llun. (gweler tudalen 4 Llais Oldford am ryseitiau)

 
Diolchiadau mawr i aelodau’r Grŵp Cymuned Weithgar am drefnu digwyddiad mor wych, a diolch eto i’r holl wirfoddolwyr am helpu sicrhau ei fod yn digwydd. Cysylltwch â ni ar 01938 556648.

Back to Main News Page