29th Jan 2010
Oherwydd eu bod nhw mor boblogaidd, bydd y Sesiynau Mynediad Agored yn rhedeg bob dydd Mercher o 1yp – 5yp yn ystafell gymunedol Clwyd Alyn ar Ystâd Oldford. Byddant yn cychwyn ar 3ydd Chwefror.
Mae’r sesiynau hyn yn anffurfiol iawn, ac yn rhoi cyfle i aelodau’r gymuned ddod i ddefnyddio’r cyfrifiaduron a syrffio’r we. Bydd cymorth ar gael i’r bobl sydd yn llai hyderus wrth ddefnyddio’r cyfrifiaduron.
Hefyd bydd y sesiynau hyn yn helpu aelodau’r gymuned i leisio eu barn ar yr hyn sy’n mynd mewn i’r cylchlythyr, Llais Oldford! Bydd cyfle i wneud ymchwil i straeon, chwilio am ryseitiau, lawrlwytho ffotograffau a mwy. Mae’n bosibl dod ag eitemau i’r cylchlythyr wedi’u hysgrifennu â llaw neu gellir eu teipio yn ystod y sesiynau. Os nad yw pobl yn teimlo’n gyfforddus ynghylch teipio eitemau, yna bydd Claire Allen Swyddog Gweinyddol Cymunedau yn Gyntaf Oldford ar gael i gynnwys eitemau yn y cylchlythyr.
Yn ystod yr ail wythnos, cynhelir y sesiwn ar ddydd Mawrth 9fed, am fod rhywbeth arall ymlaen yn yr ystafell.
Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 01938 556648
12th Jul 2010
15th Jun 2010
7th Apr 2010
29th Jan 2010
25th Jan 2010
20th Oct 2009
9th Oct 2009
9th Oct 2009
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys