9th Oct 2009
Diwrnod o Hwyl Y Trallwng 2009
Dydd Sadwrn 26ain Medi, Caeau Ysgol Maesydre, 10.30am - 4.30pm.
Bu Cymunedau yn Gyntaf Oldford yn gweithio’n agos gyda Thîm Plismona Bro’r Trallwng i gynnal y digwyddiad hwn. Nod y diwrnod oedd rhoi cyfle i bobl fwynhau eu hunain tra’n dysgu mwy am y gwasanaethau argyfwng 999 a’u gwaith hwy.


Agorwyd y Diwrnod o Hwyl yn swyddogol gan Faeres Y Trallwng, y Cyng. Ann Holloway gyda chwmni ‘Stay Alive Clive’ o Dîm Diogelwch ar y Ffordd, Cyngor Sir Powys a masgot Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Roedd Diwrnod o Hwyl Y Trallwng 2009 yn llwyddiant mawr, gyda dros 1200 o ymwelwyr a mwy na 90 yn cystadlu yn y Sioe Gŵn Hwyl!


Roedd gweithgareddau am ddim ar gael i’r teulu cyfan, gan gynnwys cwrs Her y Fyddin, Trampolîn X-Treme, Castell Gwynt, a Chwrs Bynji a llu o stondinau.


Yn yr arddangosfa gan Wasanaethau Brys 999, ail-grëwyd damwain ffordd, a gwelwyd gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn gweithio’n effeithlon ochr yn ochr â’r Gwasanaeth Ambiwlans a’r Heddlu i ddelio gyda’r digwyddiad. Hefyd roedd Doctor Achosion Meddygol Brys yn bresennol.



Llwyddodd y digwyddiad hwn i ddangos llwyddiant mudiadau’n gweithio mewn partneriaeth er budd y gymuned leol.


Diolch o galon i bawb a helpodd i wneud y diwrnod yn llwyddiant mor ysgubol.
12th Jul 2010
15th Jun 2010
7th Apr 2010
29th Jan 2010
25th Jan 2010
20th Oct 2009
9th Oct 2009
9th Oct 2009
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys