Rydych yma : Hafan > Oldford Hafan > Newyddion > Cadw’n Iach a Diogel 2009

Cadw’n Iach a Diogel 2009

26th Mar 2009

 Cadw’n Iach a Diogel 2009

 Ar 19eg, 20fed a 21ain Chwefror 2009, cynhaliodd Cymunedau yn Gyntaf Oldford ddigwyddiad Cadw’n Iach a Diogel. Roedd yn llwyddiant ysgubol, gyda dros 200 o bobl yn galw heibio.

 

Nod y digwyddiad oedd hyrwyddo byw’n iach i’r gymuned leol. Cynhaliwyd y digwyddiad yn Ysgol Babanod Oldford, a dros y tri diwrnod roedd y ffocws ar agweddau gwahanol ar gadw’n iach a diogel. Noddwyr y digwyddiad hwn oedd Hybu Iechyd Cymru a Chyngor Sir Powys.

img_2136_200

 

Roedd llawer o weithgareddau a gweithdai am ddim ar gael ar themâu megis:

·                     Arddangosiadau coginio,

·                     Gwaith coed,

·                     Dawnsio Neuadd,

·                     Trefnu blodau,

·                     Argraffu gyda’r bysedd,

·                     Gwneud papur,

·                     Lliwio

·                     Gwneud gemwaith,

·                     Gweithdy ailgylchu

·                     Dawns

·                     Sesiynau trin traed

·                     Gwiriadau iechyd

·                     Tylino’r pen – dull Indiaidd

·                     Defnyddio Ffrwythau mewn ffyrdd ffynci               fun_funky_fruit_creations_200

·                     Gwneud smwddis

·                     Chwilio chwilod, gwneud blychau bwydo adar a gwestai chwilod

·                     Datgelu metel

·                     Paentio wynebau

·                     Gêm Monopoly Enfawr

·                     Drymio Affricanaidd

·                     Ymwybyddiaeth am fwyd                                 img_2263_200

·                     Arddangosfa ar ddelio gyda thân mewn Padell Sglodion

·                     Arddangosfa Cerfio gyda Llif gadwyn

 

Yn ogystal â’r gweithdai a gweithgareddau niferus, roedd nifer o fudiadau a gwasanaethau lleol ar gael ar y diwrnod i gynnig cyngor a gwybodaeth.

img_2150_200

 

Bu Simon O’Rourke yn dangos ei ddoniau cerfio trwy greu anifeiliaid gwych, cwch, honglathau a meinciau i Ysgol Babanod Oldford, sy’n rhoi llawer o bleser i’r plant.

img_2221_200

 

Rhoddwyd enw pob ymwelydd lawr ar gyfer cystadleuaeth am ddim gyda chyfle i ennill gwobrwyon gwych, ac aeth pawb oddi yno gyda bag o nwyddau hwyl am ddim.

 

Dymunwn ddiolch i’r holl wirfoddolwyr ymroddedig sydd wedi cynorthwyo i sicrhau fod y digwyddiad yn llwyddiant, yn ogystal â Hybu Iechyd Cymru a Chyngor Sir Powys am eu nawdd a chefnogaeth.

 

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01938 556648.

Back to Main News Page