Diwrnod o Hwyl, 2008 
Digwyddodd Diwrnod o Hwyl Y Trallwng Dydd Sadwrn 20fed Medi. Fe'i cynhaliwyd ar dir Ysgol Maesydre, Y Trallwng o 10 am i 4 pm ac yr oedd yn llawn gyda dros 1,000 o ymwelwyr yn tyrru yno i fwynhau'r atyniadau a'r gweithgareddau a ariannwyd gan Cronfa'r Loteri fel rhan o brosiect Canolfannau Plant Integredig Powys a Cymunedau yn Gyntaf Oldford.

Gwerthodd Canolfan Deuluol Drws Agored dros 200 o balwns.
Roedd digwyddiadau yn y prif gylch yn cynnwys arddangosfa gan y Tïm Cwn K9 Capers a Diffoddwyr Tân Ifanc Y Trallwng, sioe gwn hwyl, rasys diwrnod chwaraeon a sesiwn fywiog o adrodd straeon plant.
Diffoddwyr Tân Ifanc Y Trallwng Welshpool yn gweithio'n galed
O amgylch yn cylch roed pobl yn mwynhau gweithdai cefl a chrefft, stondinau fair traddodiadol, ceir clasurol, cystadleuaethau, cestyll gwynt anferthol, trampolîn a Chadair Geiro, stondinau masnachol a llawer, llawer mwy!
Castell Gwynt Bungee Run. Yn herio disgyrchiant ar y Gadair Geiro .
Trefnwyd y diwrnod o hwyl gan aelodau Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Powys a Cymunedau yn Gyntaf Oldford.
Am fwy o wybodaeth am y Diwrnod o Hwyl, cysylltwch un ai â Chanolfan Deuluol Drws Agored ar 01938 556238 neu Gymunedau yn Gyntaf Oldford ar 01938 556648.
Am wybodaeth bellach cysylltwch â:
Beki Hall, Cydlynydd Rhwydwaith Canolfannau Plant Integredig Powys, Canolfan Deuluol Drws Agored,
Howell Drive, Y Trallwng
01938 556238
neu
Hannah Guntrip, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf, Oldford, Ysgol Babanod Oldford, Y Trallwng
Hannah.guntrip@powys.gov.uk
01938 556648
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys