Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Themâu a Phrosiectau > Tai > Safon Ansawdd Tai Cymru

Safon Ansawdd Tai Cymru

Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn fuddsoddiad helaeth mewn tai yng Nghymru gyda’r bwriad o godi’r stoc o dai cymdeithasol i safon yr 21ain ganrif. Amcangyfrifir y bydd cyfanswm y buddsoddiad rhwng 2005 a 2012 yn £3 biliwn.

Maw mwy o wybodaeth yn cynnwys adroddiad ‘Mwy na brics a mortar’, canllaw ‘Goroesi'r trosglwyddiad’, ac adroddiad ‘SATC’ ar gael drwy www.whq.org.uk/i2i/about_resources.php 

Mae yma gyfleoedd sylweddol i adeiladwyr, peirianwyr a chrefftwyr a chwmnïau eraill i ddarparu gwasanaeth i fuddsoddiad Safon Ansawdd Tai Cymru.

Os oes gennych ddiddordeb mewn sgiliau adeiladu a hyfforddi mae Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu yn fan da i ddechrau.

Os ydych yn adeiladwr, peiriannydd, crefftwr neu’n gwmni sydd yn dymuno darparu gwasanaeth i Gyngor Sir Powys yna gallwch gyflwyno cais i gael eich cynnwys ar restr contractwyr cymeradwy. Cysylltwch â'r Cyngor ar -- www.powys.gov.uk.