Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Themâu a Phrosiectau > Tai > Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi

Ymddiriedolaeth Tir Cymynedol Bro Ddyfi

Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi (ynghyd â’i chynlluniau ar gyfer hen safle’r Comisiwn Coedwigaeth yng Ngwersyll Ceinws) wedi derbyn gwahoddiad i fod yn rhan o Brosiect Mynyddoedd Cambria. Mae Ei Uchelder Brenhinol, Tywysog Cymru’n cefnogi’r prosiect hwn sy’n gobeithio darganfod atebion cyfannol i’r nifer fawr o sialensiau sy’n wynebu cymunedau gwledig yr ucheldir ar hyd a lled Canolbarth a De Orllewin Cymru.       

Derbyniwyd ymateb cadarnhaol gan adrannau cynllunio a phriffyrdd Cyngor Sir Powys i weledigaeth wreiddiol trigolion Ceinws ar gyfer dyfodol y safle. Meddai Jonathan Brown, Cyfarwyddwr Tir ar gyfer Pobl, sy’n cynorthwyo gyda chynlluniau ar gyfer datblygu’r safle dan arweiniad y gymuned leol, “Mae hyn yn galonogol iawn. Mae pawb y buom yn siarad â nhw yn awyddus i weld cartrefi fforddiadwy, gweithle a chyfleusterau cymunedol a oedd yn rhan mor brysur ac allweddol o gymuned Ceinws 15 mlynedd yn ôl, yn cael eu datblygu ar y safle. 
 
"Ar ôl ychydig o flynyddoedd pan na welwyd llawer o ddim yn digwydd, mae ‘r popeth yn newid rŵan. Rydym eisiau helpu i sicrhau bod ailddefnyddio’r safle hwn nid yn unig yn ateb gofynion y gymuned,” ychwanegodd, “ond hefyd yn gallu helpu i gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer datblygiad  sy’n defnyddio ynni’n effeithlon, carbon isel, gan gyfuno tai fforddiadwy, gweithle ac eco-dwristiaeth. Credwn y dylai safle gynnwys man chwarae newydd a man cyfarfod cymunedol”.

Yn nes ymlaen yn y Gwanwyn bydd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi yn cael ei lansio’n gyhoeddus, a bydd hyn yn rhoi cyfle i bobl a sefydliadau lleol i ddod yn aelodau/cyfranddalwyr yn yr Ymddiriedolaeth, ac i gyfrannu tuag at y gwaith yng Ngheinws a phrosiectau mewn mannau eraill ym Mro Ddyfi yn y dyfodol.

Mae'r testun uchod wedi dyddio ac nid yw Tir i Bobl yn bodoli rhagor.  Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi yn segur, ond yn dal i fod a diddordeb mewn ystyried cynnigion er mwyn datblygu tir ar gyfer y gymuned.  Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a Andy Rowland, ecodyfi, ar 01654 703965 neu andy.rowland@ecodyfi.org.uk.