Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Themâu a Phrosiectau > Tai > Tai Fforddiadwy > Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol

Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol


Mae YTC yn cynnig '...y dull mwyaf darbodus a gwerth yr arian o ddefnyddio buddsoddiad cyhoeddus neu breifat i ddiwallu anghenion tai. Mae'n darparu ar gyfer anghenion cenedlaethau olynol mewn modd sy'n cydnabod uchelgais y rhan fwyaf o bobl y wlad i fod yn berchen ar eu heiddo, a'r angen i bontio'r gagendor rhwng rhentu a pherchnogaeth.' - Ken Bartlett, Comisiwn Ymchwiliad Tir Sefydliad Joseph Rowntree.

Mae hawlfraint y wybodaeth a geir am YTCl yn yr adran hon yn eiddo i © Community Finance Solutions, Prifysgol Salford, www.communitylandtrust.org.uk


Beth yw YTC?

Peirianwaith sy’n caniatáu i gymunedau gael meddiant democrataidd ar dir yw YTC.  Rhyddheir tir o'r farchnad a'i eithrio o unrhyw ddefnydd cynhyrchiol er mwyn diddymu effeithiau codiadau mewn gwerth tir, ac felly gwneud datblygu lleol fforddiadwy a chynaliadwy hir dymor yn bosibl.  Yn y modd yma cedwir gwerth buddsoddiad cyhoeddus, rhoddion dyngarol, gwaddolion elusennol, cymynroddion neu fudd cynllunio am byth, gan osod sylfaen cadarn i ddatblygiad cynaliadwy ardaloedd neu gymunedau penodol.  Drwy gyfrwng YTC, bydd trigolion a busnesau lleol yn cymryd rhan ac yn cymryd cyfrifoldeb am lunio a gwireddu cynlluniau ailddatblygu.


Beth mae Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol yn ei wneud?

Mae eu gweithgareddau'n cynnwys: -

  1.    Adeiladu tai fforddiadwy i'w gosod ar rent neu eu gwerthu i bobl y gymuned;
  2.    Ei gwneud yn bosibl i drigolion sydd ar incwm is gael budd economaidd o lwyddiant eu cymuned;
  3.    Datblygu unedau gwaith ac adwerthu;
  4.    Darparu a chynnal cyfleusterau cymunedol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus;
  5.    Rheoli mannau gwyrdd ac ardaloedd cadwraeth a chynnig modd i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant fynd ati i ffermio;
  6.    Hyrwyddo cyfraniad trigolion, democratiaeth leol a dinasyddiaeth weithredol.


Mae YTC yn rhoi'r gallu i bobl leol 'reoli tiroedd comin' yn ddemocrataidd.
Cymharer y tir sydd dan berchnogaeth breifat neu gyhoeddus ag arwynebedd y DU sydd yn 'diroedd comin' a 'thiroedd gwastraff', sef llai nag 8 y cant. Gellir defnyddio YTC i ymestyn a rheoli'r rhain yn ofalus.



Gwraidd yr YTC


Arbrofion a gynhaliwyd gan y mudiad Cydweithredol a'r Siartwyr yn y 19eg ganrif ar ddiwygio tir ymarferol oedd man cychwyn datblygiad peirianwaith YTC ym Mhrydain ac Iwerddon.  Esgorodd yr arbrofion hyn yn 1903 ar ddatblygiad Letchworth Garden City ar batrwm 'cymdeithas tir cydweithredol', cyfundrefn a ddyfeisiwyd gan Ebenezer Howard i gadw gwerth er budd cymunedol.  Ni fu olynydd i ddatblygiad arloesol Howard ym Mhrydain ond cafodd ei atgyfodi yn y 1950au gan ddiwygwyr tir Gandhiaidd drwy gyfrwng cydweithfaoedd Gramdan ('rhoddion pentrefol') yn India.  Trosglwyddwyd dros filiwn o erwau o dir rhoddedig i 'ymddiriedolaethau pentrefol' o ganlyniad i waith y mudiad, oedd dan arweinyddiaeth Vinoba Bhave.  Daeth y llwyddiant i sylw'r Dr. Martin Luther King, a sefydlodd y mudiad hawliau sifil YTC cyntaf yr Unol Daleithiau yn 1967 yn Georgia gyda'r amcan o sicrhau y byddai tir fferm fforddiadwy ar gael i gyfrangnydwyr Affro-Americanaidd.  Mae YTC datblygu'n ffurf gyfreithiol bendant yn yr UD erbyn hyn ac yn ystod y pymtheng mlynedd diwethaf, datblygodd dros 130 o YTC mewn cymunedau trefol a gwledig.  Rhydd llywodraeth Ffederal y DU gymorth ariannol i gymunedau lleol i dalu am arbenigedd technegol yn y gyfraith a meysydd eraill. Ddechrau'r 1990au, cafodd yr Ymddiriedolaethau eu hadfer ym Mhrydain gan grofftwyr yn yr Alban oedd am gyd-brynu tir gan landlordiaid absennol.  Roedd yr YTC a sefydlwyd yn Ynys Eigg ar flaen y gad o ran y mudiad hwn.

  • Mae nifer gynyddol o YTC yr Alban a gosododd Ddeddf Diwygio Tir (Yr Alban) 2003 fframwaith alluogi sy'n rhoi Hawl Prynu Cymunedol i gymunedau gwledig yr Alban ar ffurf hawl rhagfeddiannol i brynu tir y cofrestrwyd diddordeb ynddo ganddynt ac y dangoswyd y byddai o fudd cyhoeddus iddynt fod yn berchen arno.  Gall cymunedau yn yr Alban fel yn yr Unol Daleithiau gael mynediad i gymorth technegol, pecynnau ariannol ac adnoddau eraill ar gyfer sefydlu YTC yn lleol.


Y Manteision - Pam cael YTC?

Cadw Gwerth Arhosol ar ran Cymunedau.

Mantais allweddol YTC yw fod gwerth arhosol tir yn cael ei gadw er budd cymunedol am byth.  Bydd YTC yn cymunedu a chydfuddiannu asedau, yn hytrach na'u preifateiddio.  Unwaith y diogelir gwerth, mae trefn YTC yn sicrhau na fydd asedau'n mynd i ddwylo preifat.  Mae Welwyn Garden City, er enghraifft, yn rhoi mwy na £1m y flwyddyn i'r gymuned.  Cyn bo hir bydd Stonesfield Community Trust yn rhoi £40,000 y flwyddyn ar ffurf ffrwd incwm o'u hasedau.

Dyma rai o'r manteision eraill:

1. Stiwardiaeth: Diogelu adnoddau prin am byth

  • Fforddiadwyedd: ni chynhwysir costau tir ar y fantolen a bydd yr eiddo unai yn cael ei brynu neu ei rentu gan yr ymddiriedolaeth tir.
  • Diogelu cymorthdaliadau cyhoeddus: bydd cymorthdaliadau prynu tir yn cael eu hymgorffori'n barhaol ar gyfer cenedlaethau sydd i ddod.
  • Diogelu cyflwr a chynllun mwynderau sy'n derbyn arian cyhoeddus.



2. Symudoledd: Ailgodi Ysgol Deiliadaeth Tai

  • Pontio rhwng tai cymdeithasol a chartrefi rhyddfreiniol cyntaf: mae tystiolaeth o'r Unol Daleithiau bod modd i bobl sydd biau tai ar dir YTC ac eisiau symud, fforddio ymuno â'r farchnad agored gan adael eu tai YTC ar gyfer pobl eraill.
  • Mwy o ddewis i bobl o ran math a deiliadaeth y tai: tai ar rent neu yn perthyn i'r deiliad, rhan-ecwiti cydweithredol neu unigol
  • Creu dewis deiliadaeth tai mewn ardaloedd sydd wedi mynd yn ddethol



3. Cydlyniant Cymdeithasol: Cefnogi Datblygu ond heb Ddisodli

  • Datblygu ardaloedd dirywiedig heb achosi iddynt fynd yn ddethol.
  • Cadw manteision hunangymorth cymunedol os yw prisiau'n codi.



4. Hyblygrwydd: Ymaddasu i safleoedd, cyllid a phobl

  • Defnydd tir cymysg a mathau cymysg o dai.
  • Gellir ei ddefnyddio ar safleoedd gwasgaredig neu ar un safle, gall fod yn fawr neu'n fach.


5. Economi: Symud beichiau a chostau gweinyddu

  • Rhennir cyfrifoldeb am fonitro cynlluniau a gyllidir yn gyhoeddus â thrigolion ac ymddiriedolwyr lleol eraill.
  • Dirprwyo cyfrifoldeb am orfodi rheolaethau a awdurdodwyd yn gyhoeddus.
  • Medr YTC stiwardio tir mewn modd mwy effeithiol na chyrff dieithr


6. Diogelwch: Darparu ôl-stop ar gyfer teuluoedd sydd ar incwm isel

  • Cefnogi pobl sy'n berchen ar eu cartref cyntaf cyn ac ar ôl iddynt brynu'r ty.


7. Arf cymunedol ar gyfer datblygu economaidd, cymdeithasol a diwylliannol

  • Meithrin gallu'r gymuned i reoli ei hun.
  • Meithrin sgiliau.
  • Meithrin cydlyniant cymdeithasol.
  • Creu ffrwd incwm ar gyfer ailfuddsoddi cymunedol



Nodweddion Allweddol YTC

Sut gaiff YTC eu llywodraethu a sut fydd parhad rheolaeth gymunedol yn cael ei sicrhau?

Sefydliadau dielw yw'r YTC i gyd, sy'n berchen tir ar ymddiriedolaeth er lles y gymuned.  Mae'r strwythurau cyfreithiol a arferwyd ym Mhrydain hyd yn hyn yn cynnwys Cwmnïau Cyfyngedig drwy Warant a Chymdeithasau Diwydiannol a Darbodus er Lles Cymunedol.  Bydd Cwmnïau Budd Cymunedol yn cynnig posibiliadau yn y dyfodol.  Beth bynnag fo'r ffurf drefniadol neu gyfreithiol, hanfod peirianwaith YTC yw cadw gwerth parhaol y tir ar gyfer cenedlaethau heddiw ac i'r dyfodol.  Mae atebolrwydd democrataidd, lleol hefyd yn elfen ganolog.  Mae aelodaeth yn agored i drigolion lleol ac i unrhyw un sydd am waddoli tir neu eiddo er budd ardal ddaearyddol ddiffiniedig yr YTC.  Bydd yr aelodau'n ethol cyfarwyddwyr a dylai'r gyfundrefn lywodraethol sicrhau y ceir cydbwysedd iach ar y bwrdd er mwyn diogelu buddiannau'r gymuned yn y tymor hir.  Lle bo rhoddwyr tir (e.e. awdurdodau cyhoeddus neu landlordiaid preifat) sydd wedi cyfrannu asedau sylweddol, mae eu cynnwys fel 'ceidwaid y cyfansoddiad' yn beth dymunol.


Sut y bydd YTC yn cael meddiant ar y tir a sut y gofalir bod tai'n parhau i fod yn fforddiadwy?

Bydd YTC yn ceisio cael tir gyda'r amcan o ateb gwahanol anghenion eu cymunedau.  Mae'r anghenion hynny'n amrywio yn ôl ardal ond mae darpariaeth tai yn faes a gwmpasir gan y rhan fwyaf o'r YTC.  Derbynnir tir yn rhodd efallai, neu gael gostyngiad mawr ar bris y farchnad.  Mewn ardaloedd gwledig hwyrach y prynir tir ar gyrion pentref am bris tir amaethyddol gyda chaniatâd cynllunio o fath 'eithrio', gan ei gwneud yn bosib i'r YTC godi tai fforddiadwy i ddiwallu'r angen lleol.  O dan amgylchiadau eraill, efallai y rhoddir caniatâd cynllunio i ddatblygwyr preifat yn amodol ar iddynt waddoli cyfran o'r tir i YTC ar gyfer datblygiad tai fforddiadwy a/neu ddibenion cymunedol eraill.  Bydd yr YTC yn rhyddhau'r tir o'r farchnad, gan ddiogelu budd cynllunio ac unrhyw gynnydd arall mewn gwerth er lles y gymuned.  Bydd YTC yn rhentu neu'n gwerthu tai i drigolion lleol neu fel arall yn gosod lleoedd gwaith ar brydles.  Dim ond prynu'r adeilad y maent yn byw ynddo a wnâ perchnogion tai.  Wedi gwerthu tŷ, fel rheol caiff y perchennog brydles hir, adnewyddadwy, fydd yn caniatáu i'r preswyliwr gael morgais ac i aelodau'r teulu gael hawliau etifeddu.  Mae'r YTC yn cadw hawl i ailbrynu'r adeilad am bris a bennir gan fformiwla ailwerthu, a luniwyd i roi cyfran deg o'r ecwiti fydd wedi deillio o daliadau morgais a gwelliannau i berchennog y tŷ.


Pa endidau cyfreithiol a allai ddefnyddio mecanweithiau YTC i gadw gwerth tir ar gyfer cymunedau lleol?

Mae dewis gan gymunedau lleol o ran datblygu peirianweithiau YTC.  Gallant ffurfio strwythur cyfreithiol pwrpasol, teilwredig ar gyfer prosiect penodol neu ddefnyddio sefydliad sydd eisoes yn bod.  Er enghraifft: - Mae cymdeithasau tai yn ddarparwyr a rheolwyr tai cymdeithasol â chanddynt arbenigedd mewn datblygu.  Mae rhai ohonynt yn sefydliadau democrataidd seiliedig ar aelodau a sefydlwyd un ai ar ffurf cymdeithasau 'er lles y gymuned' neu 'gydweithfaoedd gwirioneddol'.  Byddant yn annibynnol ar unrhyw reolaeth statudol ac eithrio pan fônt am sicrhau grantiau tai gan y llywodraeth.  Mae cymdeithasau er lles y gymuned mewn sefyllfa dda i ddefnyddio peirianwaith YTC.  Gallant ddarparu tai ar dir YTC mewn partneriaeth â chydweithfa tai cydfuddiannol.

Ymddiriedolaethau Treftadaeth  - fe'u sefydlwyd i ateb amrywiaeth eang o ddibenion, fel rheol yn gysylltiedig â thir, eiddo hanesyddol neu safleoedd diwylliannol/diwydiannol.  Enghraifft o hyn yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.

yn yr Unol Daleithiau, yr enw a ddefnyddir arnynt yw Ymddiriedolaethau Tir Cadwraeth neu Ymddiriedolaethau Tir Amgylcheddol.  Yn groes i sefydliadau YTC, nid yw darparu tai fforddiadwy yn un o'u swyddogaethau.  Fodd bynnag mae rhai Ymddiriedolaethau Treftadaeth, megis yr Isle of Ghiga Heritage Trust yn yr Alban, yn codi tai fforddiadwy ac wedi datblygu'n arloeswyr mudiad YTC. 

Ymddiriedolaethau Datblygu  - cyrff sy'n seiliedig ar y gymuned, ac a fydd yn ymgymryd â chynlluniau adfywio a datblygu.  Gallant ymgymryd â chynlluniau penodol neu, yn fwy tebygol, amrywiaeth o fentrau economaidd, amgylcheddol, diwylliannol neu gymdeithasol.  Byddant yn dal asedau mewn ymddiriedolaeth er lles tymor hir y gymuned.  Mae natur eu hasedau a'u gweithgareddau'n amrywio'n fawr.  Hwyrach y bydd rhai Ymddiriedolaethau Datblygu eisoes yn, neu gallent fod yn manteisio ar fecanwaith YTC i osod sylfaen gadarn ar gyfer datblygiadau tai fforddiadwy a/neu ddatblygiadau defnydd cymysg.

Cynghorau Plwyf - y disgwyl yw y byddant yn y dyfodol yn cael rhagor o bwerau lleol ac adnoddau gan y Llywodraeth i gynnal gwasanaethau pentref a chymuned yn cynnwys: rheoli parciau, cynnal a chadw goleuadau strydoedd a chyflogi trefnwyr cymdogaethau.  A hwythau'n gyrff lleol a etholwyd yn ddemocrataidd, gallai Cynghorau Plwyf yn ardaloedd gwledig Lloegr, Cynghorau Cymuned (neu Fro) yng Nghymru a'r Alban a Chynghorau Cymdogaeth yn yr ardaloedd trefol hefyd ddefnyddio peirianwaith YTC i gadw gwerth fel dull o ateb anghenion cymunedau.  Yn wir pe datblygid hwy yn y modd cyfranogol yma, gallai YTC fod yn gyfrwng perffaith i hadu mudiad 'microddemocratiaeth' y bu hyrwyddwyr Cynghorau Plwyf a Cynghorau Cymdogaeth yn ei argymell ers tro byd.


Enghreifftiau o YTC arloesol

Isle of Ghiga Heritage Trust
Ynysoedd Heledd, Yr Alban.

Wedi i'r landlord absennol roi Ynys Ghiga ar werth ym mis Awst 2001, fe wnaeth y trigolion sefydlu Partneriaeth i ystyried pryniant cymunedol.  Cafwyd cefnogaeth gan Gronfa Dir yr Alban ar gyfer astudiaeth dichonoldeb a mynegodd yr ynyswyr gefnogaeth ysgubol mewn pleidlais a gynhaliwyd ddiwedd 2001.  Cafodd y gymuned fenthyciad o £1 miliwn gan Gronfa Dir yr Alban a chodwyd £3 miliwn yn rhagor ar ffurf grantiau er mwyn cwblhau'r pryniant.  Roedd yr eiddo a brynwyd yn cynnwys 41 o 67 o dai'r ynys.

Ers hynny cododd yr Ymddiriedolaeth chwech eiddo i'w gwerthu i berchennog-ddeiliaid ac mae wrthi'n codi 18 o dai i'w rhentu mewn partneriaeth â Fyne Homes Housing Association.  Ffurfiodd gonsortiwm adeiladu gyda Fyne Homes a thri o adeiladwyr lleol i wella'r hen gartrefi a chodi'r tai newydd.  Mae prentisiaid adeiladu yn cael eu hyfforddi, gyda chwarel fechan ar yr ynys yn cyflenwi defnyddiau lleol.

Bu'r Ymddiriedolaeth hefyd yn gyfrifol am ddatblygu fferm wynt gyntaf yr Alban i fod yn eiddo i'r gymuned, a dechreuwyd cynhyrchu pŵer gyda thri thyrbin 40 metr ym mis Hydref 2004.

Llwyddwyd i sicrhau cyllid o £400,000 ar gyfer y cynllun ynni adnewyddadwy, fydd yn ei dro yn creu incwm o £140,000 y flwyddyn.  Ar ôl ad-dalu'r benthyciadau, bydd yr elw yn ariannu cynlluniau cymunedol eraill.  Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn cadw gwesty ar yr ynys, ynghyd â nifer o dai gwyliau a thair fferm laeth.  Cafodd y £1 miliwn a fenthycwyd gan Gronfa Dir yr Alban ei ad-dalu'n llawn yn 2004.  Mae poblogaeth yr ynys ar gynnydd am y tro cyntaf ers degawdau, yr ysgol yn tyfu a cheir rhestr o bobl sydd am fudo i Ghiga. 
'Aeth ein hynys i law'r derbynnydd ac yna un dydd, disgwyliai rhybudd dadfeddiannu y trigolion pan gyraeddasant adref. Roedd yr esiampl a osododd llwyddiannau ymddiriedolaeth tir Ynys Eigg o'r hyn ellid ei gyflawni yn hollbwysig. Ni ddeallai neb ystyr perchnogaeth gymunedol i ddechrau.

Bellach mae gennym gynllun datblygu pum mlynedd sy'n cwmpasu ad-dalu'r ddyled, datblygu cynaliadwy, isadeiledd cymdeithasol a'r economi lleol.

Fydden ni ddim wedi cyflawni dim o hyn pe na bai'r ynys yn perthyn i ni.' Alan Hobbett, Isle of Ghiga Heritage Trust


Stonesfield Community Trust (Ymddiriedolaeth Cymunedol Stonesfield), Swydd Rhydychen

Mae Stonesfield Community Trust yn ymateb i'r diffyg tai fforddiadwy sydd yn Swydd Rydychen oherwydd prisiau uchel.  Mae'r gwaith a wna'r Stonesfield Community Trust yn ymateb lleol ac effeithiol gan drigolion y cylch i brinder tai fforddiadwy yn y pentref penodol hwn yn Swydd Rydychen (poblogaeth 1,900).

Sefydlwyd yr Ymddiriedolaeth yn 1983, ac ers hynny llwyddodd i ddarparu 14 o dai fforddiadwy a 2 o leoedd gwaith, er derbyn ond ychydig iawn o arian cyhoeddus.  Prif ysgogwr yr Ymddiriedolaeth yw Tony Crofts, y Cadeirydd, a  ddechreuodd bryderu yn ystod y 1980au fod nifer y plant a fynychai'r ysgol gynradd leol yn gostwng, a bod mewnlifiad cynyddol o newydd-ddyfodiaid cefnog yn codi prisiau tai yn Stonesfield a phentrefi eraill.

'Mi welwn bentrefi'n marw ar hyd a lled y Cotswolds,' medd Tony, 'a doeddwn i ddim am i'r un fath ddigwydd i Stonesfield.'

Rhoddion tir

Sefydlodd yr Ymddiriedolaeth gyda dau gyfaill iddo gan roi safle chwarter erw yn y pentref ar gyfer y cynllun cyntaf.  Bu rhodd o £3000 a gafwyd gan gwmni lleol goleuedig a hanai o'r pentref yn ddigon i dalu'r costau sefydlu a chyfreithiol a thalu am gyflwyno cais ar gyfer y cynllun i godi pedwar o dai.  Cymeradwywyd y cais cynllunio, a chynyddodd gwerth y tir ar unwaith o £3,500 i £150,000, sef digon o warant i'r Ymddiriedolaeth gael benthyciad banc i adeiladu'r pedwar tŷ cyntaf.  Yn ddiweddarach addaswyd un o'r tai'n ddwy o fflatiau ac ychwanegwyd fflat nain at un o'r lleill, sef cyfanswm o chwech o gartrefi ar y safle.

Cyllid egwyddorol ac elusennol

Prynwyd ail safle chwarter erw yn y pentref gyda benthyciad o £80,000 a gafwyd gan Gyngor Dosbarth Gorllewin Swydd Rydychen.  Cwblhawyd pump o dai erbyn 1993 gan ddefnyddio cyllid o nifer o wahanol ffynonellau, yn eu mysg:

  • Benthyciadau gan Fanc Triodos a'r Ecology Building Society.
  • Daeth hysbysebion a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn y Crynwyr, The Friend, â rhoddion a benthyciadau llog sefydlog o £119.500 gan fuddsoddwyr egwyddorol preifat.
  • Rhoddwyd bron i £7,000 gan Grynwyr yn mynychu yng nghylch Cyfarfod Misol Witley.
  • Fe wnaeth Ymddiriedolaeth Tai y Crynwyr drosi benthyciad di-log o £20,000 yn grant.


Fel y digwydd yn aml iawn, mae elfen werdd gref i'r pryder egwyddorol a roddodd fod i'r Ymddiriedolaeth.  Cynlluniwyd y tai i allu manteisio i'r eithaf ar yr haul ac fe'u hinswleiddiwyd i safon uchel. Mae'r 11 o dai yn cael eu gosod i bobl â chanddynt gysylltiadau lleol ac incwm cymedrol.  Fe'u rheolir ar ran yr Ymddiriedolaeth gan asiant gosod proffesiynol fu am flynyddoedd yn gwasanaethu am ddim ac sydd erbyn hyn ond yn codi £80 y mis.  'Cyfrannodd nifer fawr o bobl leol i sicrhau y byddai'r tai yn aros yn fforddiadwy', meddai Crofts.

Addasu ffatri

Y drws nesaf i ail gynllun yr Ymddiriedolaeth addaswyd hen ffatri sgriniau sidan gan Tony Crofts a'i wraig Randi Berild, sy'n bensaer, i greu dau dŷ, fflat a dau le gwaith gyda benthyciadau banc ynghyd â grant gan y Comisiwn Datblygu Gwledig tuag at y lleoedd gwaith.  Cafodd y cynllun ei orffen yn 1994 a defnyddir rhenti o'r eiddo i gynnal y benthyciadau.  Wedi deng mlynedd a nifer fawr o ad-daliadau, ildiodd y banc ei hawl i un o'r lleoedd gwaith.  Mae hwn yn gartref i gylch cyn-ysgol, ac fe'i trosglwyddwyd gan Crofts i berchnogaeth yr Ymddiriedolaeth er lles y pentref am byth.

Mae'r Crofts ar fin cael gafael ar yr ail le masnachol, sy'n gartref i swyddfa bost y pentref ar rent sefydlog, y fflat uwch ei ben ac un o'r tai, a’i drosglwyddo i'r Ymddiriedolaeth.

Mentrau cymunedol

'Wedi i ni dalu benthyciadau'r cynlluniau, bwriad yr Ymddiriedolaeth yw neilltuo unrhyw arian fydd dros ben o'r incwm rhenti i gyllido gwell Cymorth Cartref i'r Henoed ac i gyflogi gweithiwr ieuenctid.  Ychydig iawn sydd yn Stonesfield ar gyfer pobl ifanc, gyda'r bws olaf i Rydychen yn gadael am 3.40 y pnawn a'r bws olaf yn dod yn ôl am 6,' meddai Crofts.  'Rydym hefyd yn ystyried posibiliadau Cyfrifon Dysgu Unigol, fyddai ar gyfer pobl ifanc o'r pentref sy'n brentisiaid neu'n derbyn addysg bellach.'

Gwthiodd y rhodd tir cyntaf y cwch ariannol i'r dwr, gan wneud y tri chynllun yn bosib.  Ar ben hyn, cyfrannodd llawer o bobl y cylch o'u harian, o'u hamser a'u harbenigedd.  Mae clerc y cyngor plwyf, cynghorydd sir, athro wedi ymddeol a Chrynwr lleol ar bwyllgor rheoli'r Ymddiriedolaeth gyda Crofts.

Partner llywodraeth leol

Bu Cyngor Dosbarth Gorllewin Swydd Rydychen yn bartner parod iawn.  Mae cyfrifoldeb strategol arno i ddarparu tai fforddiadwy o fewn ei ardal a rhoddodd ei gefnogaeth i gynlluniau cymdeithasau tai mewn 13 o bentrefi eraill, wnaeth esgor ar 200 o dai fforddiadwy.  Ni ellir cymharu yr un ohonynt â chynllun Stonesfield fydd, wedi ad-dalu'r benthyciadau, yn perthyn i'r gymuned ac nid i sefydliad allanol, pa mor deilwng bynnag ei fwriadau.  Mae cartrefi'r Ymddiriedolaeth, swyddfa'r post a'r cylch cyn-ysgol yn rhan o wead y pentref yn yr un modd â'r dafarn, yr ysgol, yr eglwys a'r capel.  Maent yn brawf byw o'r ffordd y gall sefydliad bychan wneud cyfraniad enfawr at fywyd pentref cynaliadwy.

© Community Finance Solutions, Salford University.

Am fwy o wybodaeth ewch i’r dudalen ar Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi.