Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Themâu a Phrosiectau > Tai > Tai Fforddiadwy > Darpariaeth Tai Fforddiadwy ym Mro Ddyfi

Darpariaeth Tai Fforddiadwy ym Mro Ddyfi

Mae diffyg tai fforddiadwy yn ardal Bro Ddyfi yn fater o bryder difrifol. Mae Cyngor Sir Powys yn datgan y gellir diffinio ‘tai fforddiadwy’ fel tai sydd ar werth am lai na phris y farchnad, yn berchnogaeth a rennir neu’n dai cymdeithasol (e.e. cartrefi ar rent gan y cyngor a chymdeithasau tai).

Arolwg o Anghenion Tai Bro Ddyfi
Yn 2004 fe gynhaliwyd Arolwg Anghenion Tai ym Mro Ddyfi gan Gymunedau yn Gyntaf a Chyngor Sir Powys, mewn partneriaeth ag Ecodyfi a Chyngor Cymuned Glantwymyn, a gyda chefnogaeth Cynghorau Cymuned Llanbrynmair a Chadfarch a Chyngor Tref Machynlleth.


Dangosodd y canlyniadau nifer o faterion yn ymwneud â darpariaeth cartrefi lleol yn cynnwys y problemau y mae pobl leol yn eu hwynebu:

  • Diffyg tai fforddiadwy
  • Cyflogau isel
  • Mewnfudwyr yn medru prynu tai (yn cynnwys ail gartrefi) sydd yn cau cadw pobl leol allan
  • Diffyg tai i bobl ieuainc a theuluoedd
  • Iaith a diwylliant Cymraeg o dan fygythiad
  • Dim cyflenwad newydd o dai fforddiadwy, yn cynnwys tai cyngor


Daeth yr adroddiad i’r casgliadau fod:

  • Problem tai fforddiadwy sylweddol
  • Galw am gartrefi i bobl sengl yn bennaf, llawer ohonynt eisiau sefydlu cartref newydd annibynnol / priodi neu fyw gyda phartner
  • Y mwyafrif yn ceisio am dai sydd â hyd at dair llofft
  • Y mwyafrif llethol am fyw yn lleol
  • Tua 50% yn disgwyl prynu, 50% am rentu
  • Bron bawb eisiau tÅ· yn hytrach na byngalo
  • Rhywfaint o angen cartrefi i bobl hÅ·n a/neu bobl anabl
  • Y mwyafrif yn methu talu mwy na £35 i £75 yr wythnos
  • Llawer o ddiddordeb mewn tai isel eu cost i bobl leol ac mewn cynorthwyo i sicrhau hyn
  • Llawer o ddiddordeb mewn hunan-adeiladu
  • Llawer o gefnogaeth i dai fforddiadwy i bobl leol (ac ychydig o wrthwynebiad)


Strategaeth Tai Cyngor Sir Powys
Mae Dogfen Strategaeth Tai Cyngor Sir Powys (2004) yn pwysleisio’r angen i weithio mewn partneriaeth i gyflawni’r canlyniadau a ddymunir. Y prif amcan yw: "Galluogi darpariaeth a chynhaliaeth tai fforddiadwy o ansawdd da, diogel a phriodol er mwyn cwrdd ag anghenion a dyheadau pobl Powys, gydag ystyriaeth i’r angen i gynnal a chefnogi cymunedau cynaliadwy ynghyd â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg."

Er mwyn cyflawni hyn bydd y Cyngor yn ceisio:

  • Sicrhau bod tai fforddiadwy o ansawdd da yn cael eu codo lle bo’r angen, trwy weithio’n glòs gyda chymunedau lleol a sefydliadau partner allweddol. 
  • Adnabod yn fanwl gywir yr anghenion tai ledled Powys a llunio mesurau i sicrhau y gellir â hyn. 


Ar safleoedd adeiladu newydd o 5 neu fwy o dai bydd y Cyngor yn ceisio trafod cynnwys cyfran o dai fforddiadwy. Bydd trafodaethau â datblygwyr yn digwydd fesul achos. Bydd y Cyngor yn ceisio am gyfran o 30-35% o dai ar safleoedd datblygu newydd i fod yn dai fforddiadwy. Gall safleoedd tai bychain sydd wedi eu lleoli y tu allan ond gerllaw pentrefi sydd yn bodoli gael eu rhyddhau ar gyfer codi tai fforddiadwy fel eithriad i bolisïau atal cyffredin (Polisi Eithrio Gwledig).

Er mwyn egluro agweddau penodol o gynllunio, yn enwedig wrth ystyried tai fforddiadwy, cyhoeddwyd taflen gan y Cyngor yn egluro canllawiau cynllunio atodol.

Mae’r Ddogfen Strategaeth lawn i’w chael ar wefan Cyngor Sir Powys:
 http://www.powys.gov.uk/index.php?id=124&L=1


Safbwynt Llywodraeth Cynulliad Cymru
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i ddarparu 6,500 o dai fforddiadwy newydd ychwanegol. Gwelir ystod o gyhoeddiadau ynglÅ·n â strategaeth dai'r Cynulliad ar
http://www.wales.gov.uk/housing/

Cynhyrchwyd Pecyn Cymorth Tai Fforddiadwy gan y Cynulliad sydd i’w gael ar:
http://new.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/housing/publications/affordablehousingtoolkit?lang=cy


Cynlluniau Cymunedol
Ni all Cymdeithasau Tai a thai Cyngor gyrraedd y galw am dai fforddiadwy.

Mae cymorthdaliadau cyhoeddus yn lleihau ac mae galw cynyddol am ddulliau eraill o ddarparu tai fforddiadwy gydag atebion ariannol newydd.

Mae ystod o ddewisiadau posib i ddarparu tai heb arian cyhoeddus.

Un o’r agweddau pwysicaf cynlluniau tai fforddiadwy cymunedol yw ei bod yn  angenrheidiol i gynnwys y gymuned leol yn y cynlluniau a’r trafodaethau yn ystod y camau cynnar.

Am fwy o wybodaeth: ewch i’r adrannau ar Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol a’r Canllaw Datblygu Cynlluniau Tai Fforddiadwy.

Am wybodaeth am gynllun tai fforddiadwy lleol ewch i dudalen Prosiect Cymunedol Heulfryn.

Datblygiadau Lleol Eraill
Mae yna ddau ddatblygiad tai fforddiadwy newydd lleol, un yn Nerwenlas a’r llall yn Llanwrin. Y mae tri chynllun arall sydd mewn cyfnodau amrywiol o ddatblygu :Iard DSO Machynlleth, Dolfach a Chemaes. Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru.