Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Themâu a Phrosiectau > Tai > Tai Fforddiadwy > Prosiect Heulfryn, Ceinws/Esgairgeiliog

Prosiect Cymunedol Heulfryn, Ceinws ac Escairgeiliog

Prosiect yw hwn i helpu i ddatblygu cartrefi fforddiadwy ar safle yn ymyl Ceinws sy’n eiddo i’r Comisiwn Coedwigaeth.

Arweiniwyd yr ymgynghoriad ar gyfer y prosiect hwn gan Ecodyfi, gan weithio mewn partneriaeth ag Awdurdod Datblygu Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Cymunedau yn Gyntaf a Chyngor Cymuned Glantwymyn.

Lluniwyd Astudiaeth  dichonoldeb ragarweiniol gan Adnoddau Gwledig o’r Trallwng ar gyfer defnydd o’r safle yn y dyfodol, a hwy fu’n gyfrifol am y gwaith ymgynghori cymunedol.

O ganlyniad i hyn ffurfiwyd ‘Partneriaeth Adfywio Heulfryn’ i edrych ar sut i ddatblygu’r safle ar gyfer y dyfodol.

Mae’r cynlluniau am dai fforddiadwy yn cynnwys man chwarae, cyfleusterau cymunedol ac unedau gwaith hefyd.

Group of huts in Ceinws camp
Uchod:Safle tai fforddiadwy arfaethedig Ceinws.

Cytunodd y Comisiwn Coedwigaeth i roddi’r tir i Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi. Er mwyn symud y prosiect ymlaen cyfrannodd Cyngor Sir Powys arian i Tir ar Gyfer Pobl. (Mae Tir ar gyfer Pobl yn arwain datblygiad Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi).

Mae’r prosiect wedi dioddef cryn dipyn o oedi oherwydd nifer y rhanddalwyr a chymhlethdodau cyfreithiol ynglÅ·n â throsglwyddo’r tir. Mae’r llefarydd dros y prosiect, Trish Andrews, yn cynghori prosiectau a arweinir gan y gymuned “i weithio gydag un pwynt cyswllt yn unig sydd â digon o awdurdod i ddelio gyda materion prosiect yn effeithiol a chyflym cyn belled â phosibl”, a hefyd “i ganolbwyntio ar faterion perchnogaeth tir o’r dechrau ac ar y cyd ynglÅ·n agweddau eraill o gynllunio ac ymgynghori fel na chollir momentwm yn y gymuned”.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Jonathan Brown, jonathan@landforpeople.co.uk.