Mae’r adran hon yn rhoi golwg bras, cyffredinol ar y broses ac yn cynnwys gwybodaeth am: Sicrhau Tir, Ymgynghoriad Cymunedol (ac asesu anghenion lleol), Caniatâd Cynllunio a Chytundebau Adran 106, Cyllid, Dylunio ac Adeiladu, Opsiynau ar gyfer Endidau Cyfreithiol.
Mae gwefan Busnes yn y Gymuned yn cynnig arweiniad defnyddiol y gellir ei lawrlwytho:
Ewch i http://www.bitc.org.uk/take_action/in_the_community/rural_action/affordable_rural.html
Gellir cael gwybodaeth bellach trwy adran Cysylltiadau a Dolenni y wefan hon.
Sicrhau Tir
Gall tir sydd yn ymyl ffiniau datblygu tref a phentref fod yn addas ar gyfer codi tai fforddiadwy.
Tir preifat yw’r rhan fwyaf o’r tir hwn y gellir ei werthu am swm y cytunir arno, gellir ei osod ar les tymor hir (99-999 o flynyddoedd) am bris cychwynnol ac yna rhent tir, neu gellir ei rentu.
Mae safleoedd tir llwyd sydd yno’n barod neu safleoedd gwag oddi mewn i ffiniau tref neu bentref yn fwy derbyniol yn gyffredinol na datblygiadau newydd sy’n ymestyn y ffiniau.
Bellach, mae’n ofynnol i bob cyngor lleol gadw ‘Cofrestr Asedau’ o dir sy’n perthyn i’r cyngor ac sy’n addas i’w ddatblygu ar gyfer tai fforddiadwy.
Mae sefydliadau eglwysig, y Comisiwn Coedwigaeth a busnesau (yn enwedig rhai sy’n cyflogi nifer sylweddol o bobl leol) yn ffynonellau tir posibl hefyd ar gyfer codi tai fforddiadwy.
Dylai tai newydd gael eu hadeiladu ar dir sy’n agos at wasanaethau a chyfleusterau lleol megis tai eraill, siopau, busnesau, ysgolion ayb, er mwyn lleihau unrhyw bwysau pellach ar wasanaethau lleol sydd yno’n barod, ac i leihau’r effaith amgylcheddol (oherwydd teithio ychwanegol mewn cerbydau er enghraifft).
Ymgynghoriad Cymunedol
Gallai fod yn angenrheidiol neu’n ddymunol i gynnal Asesiad Anghenion Tai lleol er mwyn profi bod yna angen am ddarpariaeth tai fforddiadwy yn lleol.
Fe allai fod yn un o’r gofynion yn ystod y broses o dderbyn caniatâd cynllunio, ond byddai o gymorth wrth gynllunio prosiect hefyd.
Mae Arolwg Anghenion Tai yn rhoi cyfle i’r datblygwr hysbysu’r gymuned leol am y cynlluniau a sut mae’r prosiect yn datblygu.
Mae cefnogaeth y gymuned leol yn bwysig iawn. Gallai rhai pobl wrthwynebu tai fforddiadwy newydd yn eu pentref, er enghraifft, a byddai angen tawelu eu meddyliau.
Mae angen meddwl yn ofalus wrth baratoi Arolwg Anghenion Tai, i gynllunio’r holiadur, sut i’w ddosbarthu a chan bwy, sut i sicrhau bod y wybodaeth a gasglwyd yn gywir ac yn llawn gwybodaeth.
Mae DEFRA wedi cynhyrchu holiadur anghenion tai safonol - http://www.defra.gov.uk/rural/pdfs/arh/hnsquestionaire.pdf
Gweler Arolwg Anghenion Tai Bro Ddyfi 2004 ar
http://commfirstpowys.org.uk/brodyfi/downloads/Surupdatedsurvey.doc
Caniatâd Cynllunio
Mae Adran 106 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 yn caniatáu i awdurdodau cynllunio drafod “mantais cynllunio” gyda datblygwyr sy’n gofyn am ganiatâd cynllunio.
Er enghraifft, gallai’r datblygwr fod yn awyddus i adeiladau stad o dai. Gallai’r awdurdod cynllunio ddynodi’r angen am welliannau i’r ffyrdd, ystafell ddosbarth ychwanegol yn yr ysgol leol, neu faes chwarae.
Gallai’r datblygwr dderbyn cais am gyllid i ariannu’r rhain yn gyfnewid am ganiatâd cynllunio.
Gwneir defnydd yn aml o A106 i ofyn i’r datblygwr godi cyfran o dai fforddiadwy fel rhan o’r datblygiad ehangach.
Mae cytundeb 106 yn bod er mwyn sicrhau bod tai ar gael i bobl leol, a bod tai yn parhau i fod yn fforddiadwy i bobl leol dros byth. (Cyngor Sir Powys).
Mae’r Polisi Eithriadau yn golygu ei bod yn bosib adeiladu tai ar dir na fyddai’n derbyn caniatâd cynllunio fel arfer, cyn belled â bod rhai, neu'r holl dai yn rhai fforddiadwy.
Felly, mae tir a ystyrir yn addas i’w ddatblygu yn y modd yma yn werth mwy na thir amaethyddol, ond yn werth llai na phe bai’n cael ei ddefnyddio yn y modd masnachol arferol.
Mae’n debygol bod adrannau cynllunio awdurdodau lleol yn dod yn fwy hyblyg wrth ymdrin â cheisiadau sy’n mynd i’r afael â’r angen am dai fforddiadwy.
Fodd bynnag, mae’r canllawiau caniatâd cynllunio sefydledig yn dal i fodoli, felly dylai unrhyw ddatblygwr arfaethedig dalu sylw i ffactorau megis effaith amgylcheddol, agosrwydd at dai a gwasanaethau, a chyfyngiadau arferol eraill.
Dylid trafod unrhyw gais gyda’r adran gynllunio mor fuan â phosibl.
Cysylltwch â’r adrannau cynllunio perthnasol ar:
Mae Canllaw Rheoli Datblygu Dros Dro Tai Fforddiadwy Cyngor Sir Powys (IDCG) ar y wefan:
http://www.powys.gov.uk/uploads/media/Affordable_Housing_IDCG_Feb_07_cy_01.pdf
Mae Adran Gynllunio Cyngor Sir Powys wedi darparu’r nodiadau ychwanegol canlynol:
Ni fyddai unrhyw gyfle am draws gymhorthdal mewn datblygu tai fforddiadwy (h.y. dim tai marchnad agored y tu allan i’r ffin ddatblygu yn cael eu caniatáu).
Byddai angen i’r safle / unrhyw gynlluniau roi ystyriaeth fanwl i’r ystod eang o ystyriaethau cynllunio cyffredin – polisïau trwy’r Cynllun Datblygu Unedol (UDP) yn cynnwys mynediad, defnydd tir cymysg, llifogydd, draeniad, gwasanaethau, effeithlonrwydd ynni, bioamrywiaeth, archeoleg ayb.
Yna byddai angen i’r grŵp/cymuned chwilio am ffordd o ariannu’r paratoadau ar gyfer caniatâd cynllunio heb unrhyw sicrwydd y bydd y safle yn derbyn caniatâd. (Y risg)
Gall paratoi’r cais gynnwys yr angen am arolwg rhywogaethau / cynefinoedd manwl, yr angen am fewnbwn cyfreithiol i’r cytundeb cyfreithiol er mwyn sicrhau bod yr eiddo yn mynd i barhau i fod yn fforddiadwy yn y dyfodol / ymrwymiadau cynllunio angenrheidiol eraill, yr angen am gynlluniau a datganiad cynllunio (cyfranogiad cymunedol i ddylanwadu ar y cynllun) er mwyn egluro sut mae’r cynllun yn ymateb i’r holl ystyriaethau cynllunio, ac i unrhyw waith risg llifogydd fyddai ei angen.
Cyllid
Mae nifer o opsiynau ar gyfer cyllido cynlluniau tai fforddiadwy. Gweler hefyd yr adran ddolenni.
Buddsoddiad personol: gall y perchennog tir ddymuno datblygu ac ariannu prosiect tai fforddiadwy (neu gymysgedd o dai fforddiadwy a thai preifat arferol) ei hun.
Buddsoddiad cyfalaf preifat: mae rhai cwmnïau’n cymryd rhan mewn datblygu tai fforddiadwy.
Cyllid corfforaethol: mae banciau a chymdeithasau adeiladu’n rhoi benthyciad i gyllido cynlluniau masnachol. Mae rhai yn fuddsoddwyr ‘cymeradwy’ (e.e. Ecology Building Society, Banc Triodos ) sy’n arbenigo mewn cynlluniau cymunedol ac amgylcheddol.
Grant Tai Cymdeithasol: ar gael fel arfer trwy gymdeithasau tai, felly mae cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth â chymdeithasau tai ar brosiectau tai fforddiadwy. Bellach caniateir i ddatblygwyr preifat fanteisio ar Grantiau Tai Cymdeithasol hefyd.
Grantiau eraill: Gellir cyflwyno cais am gyllid o gronfeydd canolog neu elusennau arbennig a phrosiectau cymunedol. Cysylltwch ag Ecodyfi a PAVO am wybodaeth bellach.
Cynllunio ac Adeiladu
Mae nifer o resymau da dros adeiladu tai ecogyfeillgar.
Nid ydynt yn ddrutach na thai confensiynol o angenrheidrwydd o ystyried bod y costau dydd i ddydd yn llai a’r biliau tanwydd yn is.
Mae prosiectau hunan-adeiladu yn cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd yn ogystal â chael tÅ· fforddiadwy.
Mae dau fath o hunan-adeiladu: un lle rydych chi’n rheoli’r prosiect a’r llall lle rydych yn cymryd rhan yn y gwaith adeiladu.
Mae cynlluniau ‘Sweat Equity’ yn cynnig rhanddaliadau yn y tai mae person yn helpu i’w adeiladu. Er enghraifft, pe baech chi’n cynorthwyo i adeiladu tÅ·, fe allech fod yn berchen ar ganran o’r tÅ· hwnnw yn y pen draw.
Mae cynlluniau hunan-adeiladu yn gallu rhoi boddhad mawr yn ogystal ag adeilad a gynlluniwyd i ateb eich gofynion a’ch dyheadau chi.
Fodd bynnag, cyn cychwyn ar brosiect hunan-adeiladu mae’n rhaid ystyried y mater yn ofalus, gan fod prosiect o’r fath yn gofyn am ymroddiad ac egni sylweddol.
Mae cynllunio manwl a rheoli trylwyr yn hanfodol i lwyddiant prosiect hunan-adeiladu.
Mae gan y Ganolfan Dechnoleg Amgen wybodaeth bas data eang yn rhad ac am ddim ar nifer o agweddau ar fyw’n ecogyfeillgar, cynllunio ac adeiladu, systemau ynni, cynhyrchion, deunyddiau a chyflenwyr. Maent hefyd yn trefnu cyrsiau ac yn darparu gwasanaethau ymgynghorol mewn adeiladu a chynllunio.
www.cat.org.uk
Mae gan George a Tomos Penseiri ym Machynlleth brofiad mewn atebion cynaliadwy a chynlluniau hunan-adeiladu hefyd.
www.georgetomos.co.uk
Mae EcoHomes yn gynllun cyfraddau amgylcheddol yn y Deyrnas Gyfunol. Fersiwn yw hwn o ‘Building Research Establishment's Environmental Assessment Method BREEAM’, y gellir ei gymhwyso i amrywiaeth o adeiladau dibreswyl hefyd. Yn Lloegr fe’i disodlwyd gan y ‘Code for Sustainable Homes’ yn Ebrill 2007.
Gellir cymhwyso EcoHomes i gynlluniau tai newydd preifat a chymdeithasol, yn ogystal ag mewn achos o adnewyddu ar raddfa fawr.
http://www.breeam.org/ecohomes.html
The Code for Sustainable Homes yw’r cynllun cyfraddau amgylcheddol ar gyfer tai yn Lloegr. Mae’r ‘Code’ yn nodi safonau ym meysydd effeithlonrwydd ynni, gwarchodaeth dŵr, rheoli dŵr wyneb, rheoli gwastraff tÅ·, a’r defnydd o ddeunyddiau.
Mae’r Asiantaeth Hunan-Adeiladu Cymunedol yn amcanu at ei gwneud hi’n bosibl i ddynion a merched o bob math o gefndir fanteisio’n unigol neu gyda’i gilydd trwy fod yn aelodau o grwpiau hunan-adeiladu tai.
Gweler hefyd adrannau Cysylltiadau a Dolenni
Agweddau Cyfreithiol
Mae’n bosib y byddai angen i brosiectau tai fforddiadwy cymunedol lunio endid cyfreithiol i redeg y prosiect , ac o bosib perchnogi’r tir ar ran y gymuned.
Mathau o Endidau Cyfreithiol
Y prif opsiynau ar gyfer ffurfio sefydliad tai fforddiadwy cymunedol yw:
Gall cwmnïau a chymdeithasau diwydiannol a darbodus weithredu ar sail ‘dielw - yn gydweithredol o bosib.
Gellir gwneud hyn fel arfer trwy sicrhau bod gan y Memorandwm a’r Erthyglau neu’r Rheolau amcanion cymdeithasol, cymal dosbarthiad dielw ac yn sicrhau na fedr asedau gael eu dosbarthu i aelodau pan fo’r sefydliad yn dirwyn i ben.
Fel arfer, mae sefydliadau o’r fath yn gymwys ar gyfer mathau arbennig o grantiau.
Mae modd i gwmnïau cydweithredol gofrestru fel cymdeithas ddiwydiannol neu ddarbodus neu fel cwmni cyfyngedig. Yr hyn sy’n eu gwneud yn gydweithredol yw eu 7 egwyddor gydweithredol sydd i’w gweld yn y Memorandwm ac Erthyglau neu’r Rheolau.
Gall Canolfan Gydweithredol Cymru gynnig cyngor yn ogystal â chynnig gwasanaeth ffurfio er mwyn creu cwmni cydweithredol, cwmni dielw neu gymdeithas ddiwydiannol a darbodus.
Cwmni Cyfyngedig
Cwmnïau wedi'u cyfyngu gan gyfranddaliadau yw'r math cyffredin o gwmni cyfyngedig. Cant eu defnyddio fel arfer gan sefydliadau-gwneud-elw ac mae'n bosib prynu cwmni 'parod', ond yn gyffredinol nid ydynt yn addas ar gyfer sefydliadau cymunedol.
Mae cwmni a gyfyngir gan warant yn fath o gwmni cyfyngedig a ffurfir fel arfer ar gyfer dibenion elusennol, cymdeithasol neu ddibenion difasnach eraill.
Cyrhaeddir statws menter gymdeithasol trwy feddiannu'r math cywir o Femorandwm ac Erthyglau Cyweithio.
Mae'r broses o ffurfio Cwmni Cyfyngedig gan Warant neu Gwmni Cyfyngedig gan Gyfranddaliadau yn digwydd trwy Companies House (mae'r wefan hon yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar sefydlu cwmnïau hefyd.)
Gallwch ffurfio cwmni'n uniongyrchol trwy Companies House neu trwy gwmnïau cyfreithiol.
Yn ogystal â hyn, gellir cofrestru cwmnïau gydag asiantau cofrestru sy'n rhatach i'w defnyddio fel arfer na chwmnïau cyfreithiol.
Dylai'r sefydliad ddrafftio Memorandwm Cyweithio, Cymal Amcanion a'r Erthyglau Cyweithio sy'n addas ar gyfer amcanion y sefydliad.
Gellir addasu'r rhain trwy ddilyn setiau safonol.
Mae gan Companies House Lyfrynnau Canllawiau ardderchog yn ogystal â Cwestiynau Cyffredin a ffurflenni cais a ddefnyddir yn gyffredinol i ffurfio cwmnïau.
Mae gwasanaethau ffurfio cwmni i'w cael ar y we. Gall cwmnïau cyfrifyddiaeth fod o gymorth wrth ffurfio cwmni hefyd.
Cangen Fasnachol Elusen
Gall sefydliad cymunedol weithredu fel cangen fasnachol elusen. Mae'r rhiant-gwmni'n gweithredu o dan Comisiwn yr Elusennau .
Mae angen gofal arbennig wrth weithredu rheolau cangen fasnachol elusennau.
Mae rhai manteision treth i'w hennill wrth fod â statws elusennol, ond rheolau mwy beichus yn perthyn i'r rheoli a chadw cyfrifon.
Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus (Industrial and Provident Society -IPS)
Mae dau brif fath o Gymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus:
1. gall sefydliadau gofrestru fel 'cymdeithasau er lles y gymuned'
2. gall sefydliadau gofrestru fel cwmnïau cydweithredol bona fide.
Ystyrir y math yma o endidau fel rhai addas ar gyfer mentrau cymdeithasol, a gallant fod yn gymwys ar gyfer y rhai hynny sydd am gyflwyno ceisiadau llwyddiannus am grantiau.
Cymdeithasau Cilyddol (Mutual Societies) yw'r rhain ac o ganlyniad maent yn hyrwyddo ewyllys da a chyd-gynorthwyo.
Mae ganddynt un fantais dros gwmnïau gwarant a chyfranddaliadau - gallant godi arian trwy rannu cyfranddaliadau (neu roi stoc ar fenthyciad i'r cyhoedd).
Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus yw'r math mwyaf cyffredin o sefydliad ar gyfer Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol.
Gall Canolfan Gydweithredol Cymru gynnig cyngor am y math gorau o Reolau.
Mae ganddynt batrwm o reolau y gellir eu mabwysiadau gan sefydliadau cymunedol.
Mae Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus yn cael eu llywodraethu gan Ddeddfau Cymdeithasau Diwydiannol a Darbodus 1965 - 1978 ac wedi'u cofrestru gydag Adran Cymdeithasau Cilyddol y Financial Services Authority .
Cwmni Budd Cymunedol (Community Interest Company - CICs)
Mae’r math hwn o gwmni yn ffurf gyfreithiol newydd ar gyfer cwmnïau sy’n awyddus i ddefnyddio’u helw a’u hasedau er lles y cyhoedd.
Mwy o wybodaeth: http://www.cicregulator.gov.uk/
Mae Cwmnïau Budd Cymunedol (CICs) yn hawdd i’w sefydlu, gyda holl hyblygrwydd a sicrwydd ffurf cwmni, ond gyda nodweddion arbennig fydd yn sicrhau eu bod yn gweithio er lles y gymuned.
Mae Cwmnïau Budd Cymunedol yn cyflwyno adroddiad i reolydd annibynnol ar sut maent yn tynnu rhanddalwyr i mewn i’w gweithgareddau.
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys