Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Themâu a Phrosiectau > Tai > Tai Fforddiadwy > Opsiynau Presennol ar gyfer Tai Fforddiadwy

Opsiynau Presennol ar gyfer Tai Fforddiadwy

Cymorth i dalu rhent.
Os ydych ar gyflog isel neu’n ddibynnol ar fudd-daliadau mae’n bosib y gallech gael help i dalu rhent.
http://www.dwp.gov.uk/lifeevent/benefits/housing_benefit.asp

Mae Canolfan Cyngor am Bopeth (ffôn: 0845 601421) yn rhoi cyngor am Fudd-dal Tai.

Mae cyngor ar gael o Ganolfan Gynghori Bro Ddyfi hefyd (ffôn: 01654 700192).


Tai Cyngor
Os ydych angen llety gallwch gyflwyno cais am dÅ· cyngor i Gyngor Sir Powys.

Bydd yn rhaid ichi lenwi ffurflen fydd yn penderfynu graddfa eich angen yn ôl system bwyntiau. Er enghraifft, os ydych yn rhiant sengl byddwch yn sgorio mwy o bwyntiau, byddwch yn uwch ar y rhestr aros a byddwch yn cael tÅ· yn gynt na chwpl heb blant.

Ar ôl hynny, mae pa mor fuan y cewch chi dy  yn dibynnu ar ba bryd y daw tÅ· yn wag.

Am fwy o wybodaeth ac i gyflwyno cais am dÅ· cyngor ewch i Swyddfa Tai Ardal  Cyngor Sir Powys yn Y Plas, Machynlleth (ffôn: 01654 702374). Mae gwybodaeth bellach a ffurflenni cais i’w cael ar Wefan Cyngor Sir Powys

Cymdeithasau Tai
Mae cymdeithasau tai yn defnyddio system bwyntiau debyg yn seiliedig ar anghenion wrth osod tai. Bydd Swyddfa Tai Ardal y Cyngor yn gallu eich helpu gyda cheisiadau i gymdeithasau tai

Mae 2 gymdeithas tai yn gweithredu yn ardal Bro Ddyfi: Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru a Tai Cantref. Mae’r cymdeithasau tai yn cymryd rhan mewn cynlluniau ‘Cymorth Prynu’ a ‘Rhan-Berchnogaeth’.

Am fwy o wybodaeth ewch i Adran Tai Cymdeithasol


Posibiliadau eraill
Mae ffurfiau newydd o berchnogaeth gymunedol a chyllid yn profi’n llwyddiannus, ac er eu bod yn cymryd peth amser i’w sefydlu gall y mathau hyn o gynlluniau fod yn gymharol syml, dim ond gwneud pethau yn y ffordd iawn.

Am fwy o wybodaeth ewch i’r adrannau ar Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol ac ar Canllawiau Datblygu Cynlluniau Tai Fforddiadwy.