Y ddwy brif Gymdeithas Tai gyda lletyau ym Mro Ddyfi yw:
Cymdeithas Tai Canolbarth Cymru
Bryn Aderyn
The Bank
Drenewydd
Powys
SY16 2AB
Ffôn: 01686 627476
E-bost: post@mid-walesha.co.uk
http://www.mid-walesha.co.uk
Mathau o Dai:
Cymdeithas Tai Cantref
Brynderwen
Castell Newydd Emlyn
SA38 9NX
Ffôn: 01239 710724/711374
E-bost: swyddfa@cantref.co.uk
Mathau o Dai:
Mae gwefan Cyngor Sir Powys yn cynnwys rhestr o’r holl gymdeithasau tai sy’n gweithredu ym Mhowys.
Cynllun Cymorth Prynu
Mae Cynllun Cymorth Prynu Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gallu helpu pobl sy’n methu cwrdd â’u hanghenion tai oddi mewn i’r farchnad i brynu cartref addas.
Mae Cymdeithas Tai Cantref a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru fel ei gilydd yn gweithredu’r Cynllun Cymorth Prynu, lle mae’r ymgeisydd yn cyllido 50-70% o bris prynu’r tŷ gyda’r gymdeithas tai’n talu’r gweddill gyda grant Cymorth Prynu.
I bob pwrpas, benthyciad di-log yw’r grant, ond pan werthir yr eiddo telir yr un ganran yn ôl i’r gymdeithas tai – gallai fod yn fwy neu yn llai na’r swm gwreiddiol.
Mae’r arian ar gyfer Cymorth Prynu’n gyfyngedig iawn, ac mae’r argyfwng methu fforddio tai presennol yn golygu bod galw mawr am y Cynllun Cymorth Prynu. Dim ond nifer gyfyngedig iawn o ymgeiswyr y gall y cymdeithasau tai eu helpu (yn 2007/08 dim ond 4 teulu’n unig fedrodd CT Canolbarth Cymru eu helpu).
Mwy o wybodaeth i ymgeiswyr: http://new.wales.gov.uk/desh/publications/housing/homebuyguide/guidew?lang=en
Neu cysylltwch yn uniongyrchol â’r cymdeithasau tai.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cynulliad Cymru adolygiad o Cymorth Prynu yn 2007:
http://wales.gov.uk/desh/publications/housing/homebuyreview/review?lang=en
Grant Tai Cymdeithasol
Mae Grant Tai Cymdeithasol (GTC) yn grant cyfalaf sydd ar gael trwy Lywodraeth y Cynulliad i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (h.y. cymdeithasau tai) er mwyn medru darparu tai fforddiadwy newydd ar rent neu berchnogaeth tai cost isel.
Mae GTC ar gyfer cynlluniau tai sy’n cwrdd ag anghenion a blaenoriaethau lleol fel y dynodir gan awdurdodau lleol. Ers dechrau’r 1980au mae’r tai cymdeithasol newydd bron i gyd wedi’u darparu gan Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig. Un o’r prif resymau am hyn yw eu bod hwy yn medru codi arian preifat i gyfrannu tuag at gost cynlluniau newydd.
Gellir defnyddio GTC i ddarparu tai ar rent neu berchnogaeth tŷ cost isel trwy ddatblygiadau newydd neu trwy ddefnyddio tai sydd eisoes yn bod.
Prosiectau ar y Cyd – Cymunedau a Chymdeithasau Tai
Mae Grant Tai Cymdeithasol yn beirianwaith cefnogi effeithiol ar gyfer datblygu tai fforddiadwy ond nid yw’n gallu cynnig ateb cyflawn.
Gellir ystyried atebion cyllid o’r newydd, yn cynnwys rhai a seiliwyd ar gyfalaf preifat ar gyfer ariannu datblygiadau newydd.
Yn gyffredinol, mae cymdeithasau tai yn agored i fentrau ar y cyd gyda chymunedau lleol, ac maent yn ffyddiog ynglŷn â’r posibiliadau o beirianweithiau ariannol/cyfreithiol newydd ar gyfer codi tai fforddiadwy newydd.
Fodd bynnag, mae adnoddau cymdeithasau tai yn gyfyngedig, ac yn aml maent yn methu rhoi’r amser angenrheidiol i weld prosiectau cyfan gwbl newydd yn dwyn ffrwyth.
Dyma lle mae cyfranogiad y gymuned leol yn hanfodol – er enghraifft darganfod lleiniau o dir addas a thrafod caniatâd cynllunio gyda’r Cyngor.
Ewch i adran Canllawiau Datblygu Cynlluniau Tai Fforddiadwy am fwy o wybodaeth.
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys