Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Themâu a Phrosiectau > Tai > Tai Fforddiadwy

Tai Fforddiadwy ym Mro Ddyfi

 

Group of Ceiws residents at the entrance to Ceinws camp
Uchod: Cymuned Ceinws ac aelodau Partneriaeth Adfywio Heulfryn. Hawlfraint: Trish Andrew, Prosiect Cymunedol Heulfryn.

Prinder tai fforddiadwy ym Mro Ddyfi yw un o’r materion brys mwyaf sy’n wynebu ein cymuned. Gyda phrisiau tai uchel, cyflogau isel a lleihad yn nifer tai cyngor mae’n anodd dros ben i bobl sicrhau cartrefi fforddiadwy ar rent neu gael eu troed ar yr ysgol dai.

Mae’r rhan hon o wefan Cymunedau yn Gyntaf wedi’i llunio i ddisgrifio’r ddarpariaeth o dai fforddiadwy ym Mro Ddyfi ac i gynnig arweiniad i bobl leol i ddarganfod pa fath o atebion cymunedol sy’n cael eu datblygu’n llwyddiannus.
 

Opsiynau mewn Tai Fforddiadwy ar hyn o bryd
– Yn disgrifio’r opsiynau sydd ar gael i bobl leol sydd angen tai.

Darpariaeth Tai Fforddiadwy ym Mro Ddyfi – Gwybodaeth am Arolwg Anghenion Tai Bro Ddyfi, Strategaeth Tai Cyngor Sir Powys, Strategaeth Tai Llywodraeth Cynulliad Cymru a phrosiectau lleol sydd eisoes yn bod.

Prosiect Heulfryn, Ceinws/Esgairgeiliog
– gwybodaeth a newyddion am Brosiect Cymunedol Gwersyll Ceinws i ddatblygu tai fforddiadwy a chyfleusterau cymunedol ar dir sy’n perthyn i’r Comisiwn Coedwigaeth yng Ngheinws.

Cymdeithasau Tai – Gwybodaeth am gymdeithasau tai yn yr ardal a chynllun Cymorth Prynu. Gwybodaeth am Grant Tai Cymdeithasol  a chydweithio gyda chymdeithasau tai i ddatblygu prosiectau tai fforddiadwy.

Ymddiriedolaethau Tir Cymunedol – Beth ydyn nhw? Sut maen’ nhw’n gweithio? Gwybodaeth i berchnogion tir, astudiaethau achos, Grant Tai Cymdeithasol.

Gwybodaeth i Berchnogion Tir – Cyfleoedd i berchnogion tir, yn cynnwys rhyddhau tir i’w ddatblygu oddi allan i ffiniau datblygu lleol.

Arweiniad i Gynlluniau Datblygu Tai Fforddiadwy - Yr hyn sydd arnoch angen ei wybod i gychwyn ar eich prosiect lleol eich hun: cael gafael ar dir, ymgynghoriad cymunedol, asesu anghenion, cyllid, gwybodaeth cynllunio ac adeiladu, caniatâd cynllunio, agweddau cyfreithiol (yn cynnwys opsiynau ar gyfer ffurfio sefydliadau cymunedol fel endidau cyfreithiol).