Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Bod yn rhan o Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi

Bod yn rhan o Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi

25th Jun 2010

Recriwtio ar gyfer tir cymunedol

Mae grŵp newydd yn cael ei ffurfio er mwyn cael gafael ar dir ac eiddo, a dal gafael arnynt er ffyniant tymor hir y gymuned leol. Cynhelir cyfarfod agored cyntaf Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol (YTC) Bro Ddyfi ar 1 Gorffennaf yng Nghanolfan Gofal Machynlleth.

Amcan yr Ymddiriedolaeth yw darparu tai fforddiadwy a chynaliadwy a buddion cymunedol eraill. Hoffai YTC Bro Ddyfi ddarparu tai sy’n fforddiadwy i ystod eang o incwm (nid dim ond pobl sy’n gallu cael morgais personol), a byddant yn parhau i fod yn fforddiadwy am byth i aelodau’r gymuned.

Hefyd, fe allai’r Ymddiriedolaeth chwarae rôl yn Heulfryn, Esgairgeiliog - trwy reoli neu berchen tir neu gyfleusterau cymunedol. Mae Cymdeithas Tai Grŵp Gwalia yn edrych i mewn i’r posibilrwydd o ddatblygu tai fforddiadwy a chyfleusterau eraill ar y safle hwn. Mae ‘Tir i Bobl’, Cymunedau yn Gyntaf ac ecodyfi wedi bod yn cefnogi Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi (a cyn hynny, Grŵp Adfywio Heulfryn) wrth ymchwilio i sut all y gymuned leol sicrhau’r fantais fwyaf o ddatblygiad o’r fath. 

Mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi wedi’i chofrestru fel Cymdeithas Ddiwydiannol a Darbodus, cymdeithas ddi-elw gydag ased clo - fel na fydd preifateiddio ar asedau tir. Gan fod atebolrwydd lleol a democrataidd yn ganolog, mae’r aelodaeth yn agored i bobl leol sy’n cyd-weld ac amcanion a gwerthoedd arweiniol yr YTC, ac i’r rheiny sy’n dymuno gwaddoli tir neu eiddo er budd Bro Ddyfi. 

Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn cefnogi’r fenter ac yn helpu i ddatblgu’r grŵp. Dwedodd y Cydlynydd, Cyril Evans, “Rydym yn awyddus i alluogi pobl leol i greu cymuned lewyrchus a chynhwysol drwy gydberchnogaeth ddemocrataidd a stiwardiaeth tir.”

Mae’r Ymddiriedolaeth yn chwilio am bobl i gyflawni’r weledigaeth hon. Cynhelir cyfarfod am 7.30yh ar nos Iau, Gorffennaf 1af yng Nghanolfan Gofal Machynlleth ar Forge Road i greu Grŵp Llywio. Os ydych yn methu dod, ond yn awyddus i gymryd rhan , yna ffoniwch Andy Rowland ar 01654 703965 neu e-bostiwch andy.rowland@ecodyfi.org.uk.

Mae yna gyfle hefyd i ddylunio logo sy’n adlewyrchu’r weledigaeth. Y dyddiad cau ydy’r 2 o Awst a mae manylion ar gael trwy www.ecodyfi.org.uk.

Rhagor o wybodaeth:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi - 01654 703965

Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi - 01654 700315

Jonathan Brown, Tir i Bobl - 01691 680444

Back to Main News Page