Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Cartrefi Cynhesach, Biliau Llai, Carbon Is

Cartrefi Cynhesach, Biliau Llai, Carbon Is

20th Nov 2009

Wrth ddisgwyl i’r tywydd oer gyrraedd, mae angen cymorth ar grwpiau cymunedol i lunio cais fyddai’n dod â buddsoddiad mewn arbed ynni i Ddyffryn Dyfi, pe byddai’n llwyddiannus. Mae ecodyfi a Chymunedau yn Gyntaf yn cynnal digwyddiad ar y cyd ar Dachwedd 30 ym Machynlleth i egluro cyfle ariannu newydd, ac i ddangos i bobl sy’n awyddus i gwtogi ar eu biliau ynni pa gymorth sydd ar gael yn barod.

 

Bydd nifer o sefydliadau yn bresennol, fel y gall pobl sgwrsio’n anffurfiol am sut i arbed ynni a gwneud eu cartrefi’n iachach ac yn fwy cysurus. Er enghraifft, bydd yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn cynnig syniadau a chynghori pobl pa grantiau sydd i’w cael. Bydd prosiect “Monergy” Canolfan Gynghori Bro Ddyfi sy’n cael ei redeg ar y cyd ag Undeb Credyd Robert Owen yno i gynnig cyngor ar reoli arian yn ogystal ag ynni.

 

Bydd cynrychiolwyr o Gofal a Thrwsio Powys gerllaw i i egluro sut y gall pobl oedrannus a bregus gael rhai gwelliannau wedi’u gwneud i’w tai mewn modd diogel ac yn rhad ac am ddim. Bydd ecodyfi yn dosbarthu bylbiau golau ynni isel ac yn rhoi cyfle i bobl gymryd rhan yng nghwis Ôl Troed Dyfi.

 

Yn ogystal â chael sgyrsiau dros gwpaned o de, bydd y bobl fydd yn mynychu’r cyfarfod yn clywed am y Sialens Carbon Isel i Gymunedau. Mae’r Llywodraeth yn awyddus i gynorthwyo nifer o gymunedau i leihau’r carbon a gynhyrchir ganddynt, ac yn cynnig hyd at £500,000 o arian cyfalaf i bob un sy’n cael eu dewis. Mae pobl wedi dechrau gwneud cynlluniau ynglŷn â sut y byddai Bro Ddyfi’n gallu gwneud y defnydd gorau o’r fath swm, a byddant yn cyflwyno’u syniadau i’r cyfarfod.

 

Mae cynigion presennol yn cynnwys gwella’r defnydd o ynni mewn adeilad cymunedol a chynorthwyo cymdeithas dai i adeiladu tai sy’n defnyddio ynni’n effeithlon. Mae cynigion newydd eraill yn ymwneud â rhannu ceir a syniadau am sut i wneud tai sy’n bodoli eisoes yn gynhesach, gan gynnwys insiwleiddio waliau solet a defnyddio coed yn fwy effeithlon.

 

Cychwinir y cyfarfod ar 30 Tachwedd am 7.30 yn Y Plas. Bydd yr achlysur yn berthnasol i bawb, felly bydd croeso i bawb. Mae gwahoddiad i unrhyw un sydd â chynnig perthnasol i fynychu’r cyfarfod, neu i’w drafod gydag Andy Rowland yn ecodyfi ymlaen llaw. Gellir cysylltu ag ef ar 01654 703965 neu yn 52 Heol Maengwyn, Machynlleth.

 

 

Gwybodaeth bellach:

Andy Rowland, Trefnydd ecodyfi 01654 703965

Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf 01654 700315

 

 

Back to Main News Page