6th Nov 2009
Mae ymgynghoriadau trwy ardal Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi wedi cadarnhau mai un o’r problemau mwyaf argyfyngus sy’n wynebu ein cymuned yw diffyg tai fforddiadwy. Mae Cymunedau yn Gyntaf wedi bod yn gweithio ar hyn trwy’r Grŵp Tai sy’n cynnwys Cyngor Sir Powys a chyflenwyr tai, a gwelwyd rhywfaint o dai cymdeithasol newydd yn cael eu hadeiladu. Yn ogystal â hyn, buom yn cefnogi menter sydd â’r potensial i ddwyn manteision cymunedol ehangach a rheolaeth lleol.
Cofrestrwyd Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi (CLT) gan Tir ar gyfer Pobl dros flwyddyn yn ôl, er mwyn darparu peirianwaith cyfreithlon fyddai’n medru perchnogi a datblygu tir ac asedau eraill er budd tymor hir i gymunedau ym Mro Ddyfi. Efallai bod hyn yn swnio’n uchelgeisiol, ond mae mentrau o’r fath wedi bod yn llwyddiannus mewn mannau eraill. Ers hynny, rydym wedi bod yn aros am eglurhad ynglŷn â sut a pha bryd y bydd y tir hen Ddepo’r Comisiwn Coedwigaeth yng Ngheinws yn cael ei ryddhau ar gyfer datblygu, mewn modd fydd yn dod â’r manteision mwyaf posibl i’r gymuned. Mae’r Ymddiriedolaeth yn gweld y safle hwn fel ei flaenoriaeth gyntaf, er y gall fod yno gyfleoedd eraill oddi mewn i’r ardal.
Yn dilyn cyfarfod gyda Llywodraeth Cynulliad Cymru, Tai Gwalia, ecodyfi a deiliaid diddordeb eraill yn ddiweddar, mae Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Bro Ddyfi yn llawer mwy hyderus ei bod yn bosibl gwneud cynnydd sylweddol o’r diwedd. Mae hyn yn golygu ei bod yn rhaid i’r Ymddiriedolaeth fod yn endid gweithredol yn awr. Mae’n rhaid inni benodi Bwrdd sy’n cynnwys pobl leol a’r sefydliadau perthnasol, gyda chymysgedd dda o sgiliau a phrofiad, ac a fydd yn gallu cynnig cyfranogiad lleol cryf, arweiniad a rheolaeth dros brosiect sy’n argoeli i fod yn gyffrous.
Mae Andy Rowland o ecodyfi yn bwriadu trefnu cyfarfod anffurfiol ar gyfer y rhai hynny sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am y fenter newydd hon. Pe hoffech gael gwahoddiad, neu pe hoffech drafod yn gyntaf, galwch i mewn yn Tŷ Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn neu cysylltwch ag ef ar 01654 703965 neu andy.rowland@ecodyfi.org.uk.
Os ydych am fwy o wybodaeth am Grŵp Tai Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, neu am Raglen Cymunedau yn Gyntaf yn yr ardal yna galwch yn swyddfa Cymunedau yn Gyntaf yn yr Hen Siop, Bryn y Gog, Machynlleth, os gwelwch yn dda, neu trwy gysylltu â’r swyddfa ar 01654 700315 neu Cyril@powys.gov.uk
25th Jun 2010
5th Mar 2010
20th Nov 2009
6th Nov 2009
6th Oct 2009
6th Oct 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys