Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > DIWRNOD AGOR NEWYDD I UNDEB CREDYD MACHYNLLETH

DIWRNOD AGOR NEWYDD I UNDEB CREDYD MACHYNLLETH

6th Oct 2009

Gan ddechrau Dydd Mercher, Hydref 7fed, mae Undeb Credyd Robert Owen mewn Partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn newid ei ddiwrnod a’i oriau agor o brynhawn Dydd Gwener i Ddydd Mercher rhwng 1.00pm a 3.00pm.

Bydd desg Undeb Credyd yn aros yn ei lleoliad presennol ym mhrif swyddfa Cymunedau yn Gyntaf, Yr Hen Siop, ar stad Bryn-y-Gog ym Machynlleth, a bydd yn parhau i gynnig yr un gwasanaeth i aelodau presennol yn ogystal â’r rhai hynny sy’n awyddus i ymuno o’r newydd.

Eglurodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, “Gan fod Dydd Mercher yn ddiwrnod marchnad mae mwy o bobl o’r pentrefi cyfagos yn dod i mewn i Fachynlleth. Bydd y trefniadau newydd yn galluogi pobl i ymweld â’r farchnad, siopa ychydig yn siopau ardderchog Machynlleth, a delio gyda materion ariannol i gyd ar yr un diwrnod, a thrwy hynny osgoi siwrnai ychwanegol.”

Mae’r Bartneriaeth rhwng Cymunedau yn Gyntaf a’r Undeb Credyd yn un llwyddiannus iawn ac wedi bod o fudd i nifer fawr o bobl lleol, sy’n chwilio am ddewis arall ar wahân i Fanciau’r Stryd Fawr, neu’n chwilio am gredyd fforddiadwy. Ymhlith y gwasanaethau a gynigir gan Undeb Credyd mae benthyciadau llog isel gyda thelerau ad-dalu hyblyg, cynilion hyblyg, cymorth gyda chyllido/trefnu arian,  cyngor ynni, talu biliau ac yswiriant bywyd rhad ac am ddim. Gellir gwneud taliadau yn y swyddfa, trwy archeb sefydlog, pwynt talu neu trwy gael eich budd-daliadau neu gyflog wedi’u talu i mewn yn uniongyrchol.

Gellir trefnu apwyntiadau hefyd i weld cynghorwyr dyled a budd-daliadau trwy drefniant sy’n bodoli rhwng yr Undeb Credyd a Chanolfan Gynghori Bro Ddyfi.

I’r rheiny sy’n methu ymweld â’r swyddfa ar brynhawn Dydd Mercher, gallwch gysylltu â’r undeb credyd ar 01686 623741 neu e-bostio office@romcul.co.uk am fwy o wybodaeth.

 

Back to Main News Page