17th Mar 2009
Mynychodd dros 500 o bobl y Diwrnod Cadw’n Iach a Diogel yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi, Machynlleth, Ddydd Mercher 18fed Chwefror. Trefnwyd y digwyddiad rhad ac am ddim hwn gan Gymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi fel ymateb i Her Iechyd Cymru, ffocws cenedlaethol ar well iechyd yng Nghymru.
Roedd y Ganolfan Hamdden yn llawn o ystod eang o arddangoswyr yn tynnu sylw at wasanaethau a gweithgareddau sydd ar gael yn lleol neu mewn mannau eraill ym Mhowys ac yn gallu helpu i wella a chynnal iechyd a lles pobl. Roedd gwybodaeth a chyngor i’w gael ar atal troseddu, cludiant lleol, gwirfoddoli, ôl troed eco, Cadw Cymru’n Daclus, incwm, pensiwn, tai, bywyd iach, dallineb neu olwg yn gwaethygu, colli clyw, gofal cymdeithasol a llawer mwy.
Roedd y digwyddiad yn cynnig diwrnod allan yn llawn o hwyl i’r teulu cyfan oedd yn cynnwys Cinio Iach a llawer o weithgareddau yn cynnwys Castell gwynt, Paentio wynebau, Dringo wal, Nofio, Ardal chwarae meddal, Bowlio, Hyfforddiant dawnsio a pherfformiad, Taith gerdded grŵp, a Ioga/Pilates i blant a rhai dros 50 oed.
Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn bresennol i archwilio Blancedi Trydan a chynnig rhai eraill yn eu lle yn ôl yr angen. Roedd cyfle hefyd i gofrestru am Archwiliad Diogelwch Tân yn y Cartref, tra roedd nyrsys lleol gerllaw i helpu gyda ffitio’r sliperi poblogaidd a rannwyd yn rhad ac am ddim i’r henoed. Rhoddwyd y rhain gan Wasanaeth Gofal Cymdeithasol Powys.
Roedd cyfle hefyd i fwrw golwg dros gerbydau lleol Y Groes Goch, ac i gael sgwrs gyda saer ar Fan Bobi (Heddlu Dyfed – Powys) a oedd wrth law i gynnig cyngor arbenigol i’r henoed ac aelodau bregus eraill o’r gymuned ynglŷn â throseddu yn ymwneud ag eiddo.
Enillwyr y Raffl rad ac am ddim oedd:
1) Stella Maddock - Bin Compost a chadi cegin (Rhodd gan Reoli Gwastraff Cyngor Sir Powys)
2) Tegwen Morris - Nofio i’r teulu (Rhodd gan Ganolfan Hamdden Bro Ddyfi)
3) Non Bleddyn Jones - Nofio i’r teulu (Rhodd gan Ganolfan Hamdden Bro Ddyfi)
4) Valerie Heard – Ambarél Cymunedau yn Gyntaf
Dywedodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf, “Mewn ardal wledig iawn fel Bro Ddyfi mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i wybodaeth ar brydiau ac i ddarganfod beth yn union sy’n digwydd yn lleol. Rydym yn hynod o falch o fedru gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys a Her Iechyd Cymru i’n galluogi i drefnu diwrnod sydd wedi bod yn fwynhad, yn werth chweil ac yn llawn gwybodaeth i’r gymuned gyfan. Buaswn yn hoffi diolch o galon i Staff Canolfan Hamdden Bro Ddyfi a’r Siop Goffi am eu holl gymorth i wneud y diwrnod hwn yn gymaint o lwyddiant.”
Am fwy o wybodaeth am raglen Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, mae croeso i chi alw yn y swyddfa yn Yr Hen Siop, Bryn y Gog, Machynlleth, neu gallwch ymweld â’n gwefan http://commfirstpowys.org.uk/broddyfi/
5th Mar 2010
20th Nov 2009
6th Nov 2009
6th Oct 2009
6th Oct 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
17th Mar 2009
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys