Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Bro Ddyfi’n Dathlu!

Bro Ddyfi’n Dathlu!

22nd Dec 2008

Daeth bron i ddau gant o oedolion a phlant i ymuno yn y Diwrnod o Ddathlu Cymunedol, sef digwyddiad ‘galw i mewn’ am ddim a gynhaliwyd yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi, Machynlleth ar Ragfyr 6ed. 

Cafodd y digwyddiad hwn ei drefnu ar y cyd gan Gymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi a Chanolfan Integredig i Blant Bro Ddyfi, a bu’n canolbwyntio’n bennaf ar lansiad swyddogol Cyfeiriadur Cymunedol Lleol newydd Cymunedau yn Gyntaf  ynghyd â dathliad o Blant, Pobl Ieuainc a Theuluoedd ym Mro Ddyfi.

Mae Cymunedau yn Gyntaf yn un o brif raglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n delio â diffygion ac adfywiad mewn cymunedau lleol.  Ffurfiwyd ardal CG Bro Ddyfi yn 2002 o gymunedau Machynlleth, Cadfarch, Glantwymyn a Llanbrynmair, sydd i gyd ym Mhowys. 
 
Mae Canolfan Integredig i Blant Bro Ddyfi yn rhan o brosiect Partneriaeth Plant a Phobl Ieuainc sy’n cael ei gweithredu drwy’r sir ac yn cael ei hariannu gan y Loteri Fawr.
Dywedodd Diane Jones, Swyddog Datblygu’r Ganolfan Integredig ac aelod o Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi “Bu’r digwyddiad hwn yn llwyddiant mawr a dangosodd werth sefydliadau yn cydweithio er lles y gymdeithas”.

Ymhlith y sefydliadau a’r grwpiau fu’n arddangos ac sy’n gyfrifol am waith mor dda yn y rhan o Fro Ddyfi sydd o dan awdurdod Powys oedd Gweithredu Dros Blant, Twf, Mentro Allan, Hyfforddiant Powys, Y Brifysgol Agored, Fforwm Ieuenctid (Llais Ieuenctid Dyfi), Gyrfa Cymru, Fforwm Cludiant Dyfi, Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian,  Coleg Powys ac wrth gwrs Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi a’r Ganolfan Integredig i Blant.

Roedd ystod eang o weithgareddau i blant a theuluoedd yn y Ganolfan Hamdden, yn cynnwys Paentio Wynebau, Castell Gwynt, Ardal Chwaraeon Meddal, Gweithdy Cardiau Nadolig, Tylino’r Ysgwyddau, Gwar a’r Dwylo, Arddangosfeydd Cymorth Cyntaf a Helfa Drysor.

Dywedodd Cyril Breeze Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi ‘‘Dylid canmol ein swyddog gweinyddol Lynwen Jones am ei gwaith ardderchog yn casglu gwybodaeth ac ail-gynllunio Cyfeiriadur Cymunedol Lleol Cymunedau yn Gyntaf. Gwelir y Cyfeiriadur ar ein gwefan www.commfirstpowys.org.uk , trwy glicio yn gyntaf ar Bro Ddyfi ac yna ar Cyfeiriadur Lleol”.

Os oes unrhyw grŵp, sefydliad neu gymdeithas sy’n cyfrannu at fywyd cymunedol, ac yn cael ei redeg gan neu ar gyfer aelodau o’r gymuned honno sydd heb eu cynnwys yn yr argraffiad hwn ac sydd yn dymuno cael eu cynnwys mewn argraffiadau yn y dyfodol neu yn ddi-oed ar y wefan, neu os oes unrhyw un yn dymuno derbyn copi called o’r Cyfeiriadur, cysylltwch â Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf ar 01654 700315.  

Dymuna cyd-drefnwyr y digwyddiad, Helen Jones, Cydlynydd y Ganolfan Integredig i Blant a Lyneth Davies Swyddog Datblygu CG, ddiolch yn fawr i’r grwpiau cymunedol fu’n arddangos a chynnal gweithdai, yn ogystal â’r bobl a roddodd eu hamser yn hael i gynorthwyo ar y diwrnod, yn cynnwys staff y Ganolfan Hamdden a’r caffi ac aelodau o’r Fforwm Ieuenctid a fu’n stiwardio.

Enillwyr y raffl oedd:

Hamper Fwyd Masnach Deg – John Pughe Roberts
Tocyn Nofio Canolfan Hamdden Bro Ddyfi – Nathan Roberts
Ambarél Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi – Julie Ann Heskin
Gemau Plant (2) – Peter James a Leelah Saunders

Back to Main News Page