15th Jul 2008
Fel canlyniad o ymrwymiad ac ewyllys da Llywodraeth Cynulliad Cymru a Chyngor Sir Powys, mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi wedi galli ail-adeiladu'r Hen Siop
ar stad Bryn y Gog ym Machynlleth i’w defnyddio fel prif swyddfa rhaglen CyG Bro Ddyfi.
Agorwyd y swyddfa newydd yn swyddogol gan Paul Dear, sef Pennaeth Uned Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ar y 3ydd o Orffennaf. Croesawyd y gwesteion a oedd yn bresennol gan Gadeirydd a Chydlynydd Partneriaeth CyG Bro Ddyfi sef Phil Roe a Cyril Breese Evans.
Mae dros ddeugain o grwpiau lleol wedi elwa o fwy na £180,000 trwy Gronfa Ymddiriedolaeth Cymunedau yn Gyntaf, a daeth
gyngrychiolwyr o rhai o’r grwpiau yma at ei gilydd yn ystod y diwrnod pan oedd cyfle iddynt ddweud ym mha ffordd roedd eu grwpiau nhw wedi gwneud defnydd da o’r arian.

Os na ydych wedi cael cyfle i weld y trawsffurfiad mawr sydd wedi cymryd lle i’r adeilad, mae croeso i chi daro mewn am sgwrs unrhyw bryd.
25th Jun 2010
5th Mar 2010
20th Nov 2009
6th Nov 2009
6th Oct 2009
6th Oct 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys