Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Cau'r tyllau!

Cau'r tyllau!

28th Nov 2005

Cau'r tyllau!�

Mae Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi yn gweithio ar gryfhau'r economi lleol, mewn partneriaeth ag ecodyfi.

Trefnwyd noson diddorol yn ddiweddar i archwilio sut mae arain ym llifo trwy'r cymuned.

Ceisiodd y digwyddiad ennyn pobl leol i ystyried arwyddocâd y penderfyniadau gwario a wneir gan ddefnyddwyr a busnesau lleol a sicrhau y bydd rhai ohonynt â'r awydd a'r gallu i rannu'r genhadaeth ymysg gweddill y gymuned.

Comisiynwyd ecodyfi, y grwp adfywio cymunedol, i drefnu'r digwyddiad.

Fe wnaethant hwythau gomisiynu Liz Bickerton i ddarparu'r cynnwys.

Ymgynghorydd annibynnol o Bowys yw Liz, sydd â phrofiad ym meysydd datblygu ac adfywio economaidd cymunedol.

Un o nodau'r grwp yw sicrhau economi lleol mwy cadarn - mwy hunanddibynnol a llai ar drugaredd ffactorau y tu hwnt i'w reolaeth - drwy gynyddu cylchrediad arian o fewn yr economi.

Yn achos yr economi lleol, mae punt gaiff ei gwario gyda busnes sydd mewn perchnogaeth leol fel arfer yn werth 1.7 gwaith punt a warir gyda busnesau eraill, gan ei bod yn fwy tebygol o gael ei gwario'n lleol drachefn a chefnogi swyddi lleol o'r herwydd.

Cysyniad Bwced sy'n Gollwng yw fod yr economi lleol yn debyg i fwced yn cael ei llenwi ag arian.

Bob tro mae nwyddau a gwasanaethau yn cael eu prynu oddi ffwrdd, bydd arian yn gollwng o'r economi lleol.

Gall dadansoddi'r prif fannau gollwng esgor ar weithredu.

Er enghraifft, mae �4 miliwn yn cael ei wario'n flynyddol ar ynni ym Mro Ddyfi, ond ychydig iawn ohono sy'n cael ei wario gyda chyflenwyr lleol.

Lleihawyd y gollyngiad penodol hwn fymryn yn ystod y blynyddoedd diwethaf gan bobl yn defnyddio llai o ynni (yn sgîl inswleiddio eu tai) a thrwy gyflwyno cynlluniau cynhyrchu trydan lleol (e.e.

y tyrbin gwynt cymunedol), ond mae potensial i gyflawni llawer mwy.

Petai datblygiadau tai newydd (megis y rhai a ragwelir yn Heulfryn, Ceinws, yn Llanwrin ac yng Nghemaes) yn cael eu gwresogi gan systemau gwresogi ardal yn llosgi sglodion coed lleol, byddai'r "gwariant ynni" yn cefnogi swyddi contractwyr coedwigaeth lleol.

Amlygodd trafodaethau'r noson pa mor bwysig yw gwybodaeth: ble alla i brynu peth a'r peth yn lleol? Mae gwybodaeth lafar yn bwysig, ond mynegwyd cefnogaeth hefyd ar gyfer creu canllaw lleol, syniad sy'n cael ei ystyried gan ecodyfi.

>> Cau'r tyllau - adroddiad.

Gwybodaeth bellach:

Nodiadau i Olygyddion:

Menter o eiddo Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf i helpu i gymunedau dethol weithio gyda'r sector cyhoeddus er mwyn dod â chylchdro anfantais i ben. Dewiswyd Bro Ddyfi i ymchwilio sut y gallai'r dull yma weithio mewn ardal wledig. Comisiynwyd y gwaith gan Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, er mwyn hyrwyddo gwaith grwp Economi a Chyflogaeth y Bartneriaeth. Maes cyfrifoldeb y grwp yw hyrwyddo adran Economi a Chyflogaeth y Cynllun Gweithredu Lleol. Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf hefyd yn gweithredu fel grwp craidd Fforwm Cymuned Leol Machynlleth a'r Cylch. Drwy gyfrwng y Fforwm y mae'r gymuned yn ymgysylltu â Strategaeth Gymunedol Powys.

ecodyfi yw grwp adfywio Dyffryn Dyfi. Mae'n rhoi sylw arbennig i gryfhau'r economi leol a hynny trwy warchod yr adnoddau naturiol a diwylliannol yn ofalus. Mae'n cael ei reoli gan Fwrdd o 17 o bobl leol, ac yn derbyn cefnogaeth Awdurdod Datblygu Cymru. Cefnogir ei waith dros ynni cynaliadwy gan CAE, cronfa datblygu cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri.

Cyfeiriadau

  • Plugging the Leaks - Making the most of every pound that enters your local economy Sefydliad Economeg Newydd 1899407529

  • The Money Trail Sefydliad Economeg Newydd. Gellir sicrhau'r ddau gyhoeddiad o Central Books ar 0845 458 9910 neu eu llwytho i lawr o www.pluggingtheleaks.org.

  • Mae nifer o offer a dulliau cysylltiedig, ynghyd â thanysgrifiad i e-Gylchlythyr, ar gael yn www.neweconomics.org/gen/tools_top.aspx

  • Sefydlwyd grwp trafod yahoo, ReAction, i ysgogi rhwydweithio a thrafodaeth ymysg tanysgrifwyr yr e-Gylchlythyr.

Top

Back to Main News Page