28th Oct 2006
Mae Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, sydd hefyd yn gweithredu fel y grwp craidd ar gyfer Fforwm Lleol Machynlleth a'r Cylch (FfLl) wedi gwahodd cynghorwyr tref a chymuned i gyfarfod yng Nghlwb Bowlio Machynlleth ar y 9fed o Dachwedd 2006, yn dechrau am 7.00pm.
Bydd siaradwyr yn egluro'r nifer o fentrau partneriaeth sydd yn ardal Bro Ddyfi, yn cynnwys Cynllun Gweithredu Lleol Cymunedau yn Gyntaf / Fforwm Lleol Machynlleth a'r Cylch a'r Cynllun Adfywhau drafft.
Mae'r rhain yn dwyn ynghyd llawer o bynciau a chynigion a godwyd gan bobl leol yn ystod cyfnod hir o ymgynghori.
Mae rhai o'r camau gweithredu arfaethedig wedi cael eu hysgwyddo gan sefydliadau lleol fel ecodyfi, mae rhai yn cael eu dilyn gan gyrff fel Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru ac mae angen brwydro am rai eraill.
Yn awr mae'r gymuned leol yn cael ei herio i nodi pa 5 neu 6 cynnig sydd bwysicaf i'w dyfodol.
Bydd y rhain yn cael eu bwydo i mewn i bolisi setliadau Cynllun Gofodol Cymru ac yn cael eu defnyddio i arwain buddsoddiad mewnol ac o'r Gymuned Ewropeaidd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a'i gyrff noddedig.
Eglurodd Cadeirydd y Fforwm Lleol bwysigrwydd hyn.
"Gwn yn iawn fod pobl yn 'laru clywed am strategaethau a chynlluniau, ond bydd rhai ohonynt yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n bywydau", meddai.
"Penodwyd ymgynghorwyr gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i benderfynu nodweddion pob Setliad Allweddol ac i argymell pa fuddsoddiadau a fyddent yn caniatâu iddynt ffynnu.
Mae sefydliadau ym Mro Ddyfi eisiau dweud wrth yr ymgynghorwyr beth mae'r gymuned ei angen, er mwyn iddynt allu cael y darn gwaith pwysig hwn yn gywir."
Er mai milltir sgwâr arferol y trefnwyr yw rhan Powys o Fro Ddyfi, yn cynnwys Llanbrynmair a Chwmllinau, maent yn gwahodd cynghorwyr cymunedol o Ddinas Mawddwy, Corris a Phennal yn ogystal, ac o Geredigion, cyn belled i'r de â Thaliesin.
Y rheswm am hynny yw bod yr holl bentrefi hyn yn gysylltiedig â Machynlleth ac oherwydd bod llawer o bynciau yn anwybyddu ffiniau siroedd.
Dywedodd Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, Cyril Evans, bod croeso cynnes i unigolion a busnesau gymryd rhan ac y byddai lluniaeth ysgafn ar gael.
"Mae ein cynllun gweithredu, a elwir yn Rhoi Bro Ddyfi'n Gyntaf, yn nodi'r economi, tai fforddiadwy a chludiant fel y pynciau pwysicaf".
"Ar y llaw arall, mae dyfodol yr Ysgol Uwchradd, yr ysbyty a'r amgylchedd yn hollbwysig hefyd.
Yn ogystal â bygythiadau potensial i'n lles, pa rôl a chyfleoedd a welwn ar gyfer ein hardal yn y dyfodol?"
Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi 01654 700315
Andy Rowland, Cadeirydd Fforwm Lleol Machynlleth a'r Cylch 01654 703965
Vanessa Garwood, Cyngor Sir Powys 01597 827483
Mae Cymunedau yn Gyntaf yn fenter flaengar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd wedi'i hamcanu at gynnwys pobl yn y broses o wella ansawdd eu bywyd mewn rhannau dewisol o Gymru.
Mae partneriaeth Bro Ddyfi yn cynnwys ardaloedd cynghorau cymuned Machynlleth, Cadfarch, Llanbrynmair a Glantwymyn.
Mae Fforwm Lleol Machynlleth a'r Cylch yn gweithio ochr yn ochr â Phartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi i ddatblygu Cynllun Gweithredu Bro Ddyfi.
Mae hwn yn crynhoi yr hyn y mae'r gymuned yn ei ystyried yn bwysig ar gyfer y dyfodol ac yn cysylltu pobl leol â'r rhai sy'n gyfrifol am ddarparu adnoddau a gwasanaethau.
Sefydlwyd y Fforwm fel rhan o broses Strategaeth Gymunedol Powys ac mae'n cael ei weinyddu gan grwp adfywhau ecodyfi.
Y Cadeirydd etholedig yw Andy Rowland.
Mae Cynllun Adfywhau Bro Ddyfi yn dod ag asiantaethau a chynrychiolwyr y gymuned sy'n ymwneud yn bennaf ag adfywiad economaidd at ei gilydd.
Arweinir hyn gan Adran Menter, Arloesi a Rhwydweithiau Llywodraeth Cynulliad Cymru, gyda chymorth ecodyfi a llawer o bartneriaid eraill ym Mhowys, Ceredigion a Gwynedd.
Bwriad Cynllun Gofodol Cymru yw dangos sut bydd holl bolisïau Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cael eu gweithredu ar lefel leol.
Mae'n nodi nifer o setliadau allweddol, pob un gyda'i ardaloedd cefn gwlad rhyng-ddibynnol.
Mae Machynlleth yn cael ei nodi fel un sydd o "bwys lleol".
25th Jun 2010
5th Mar 2010
20th Nov 2009
6th Nov 2009
6th Oct 2009
6th Oct 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys