Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Adroddiad ar y digwyddiad Alcemi Lleol

Adroddiad ar y digwyddiad Alcemi Lleol

13th Jul 2007

Hud a Lledrith newid cynaladwy

Ymdriniaethau gwahanol i ail ddyfeisio economiau lleol

 

local people at community meetingCynhaliwyd digwyddiad i edrych ar wahanol ddulliau o ddatblygu economaidd lleol cynaladwy ar Fehefin 13eg, 2007 gan Grwp Economi a Gwaith, Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, wedi'i gefnogi gan NEF (new economics foundation/ sefydliad economegau newydd) a Sefydliad Arian Cymunedol Cymru.

Esboniodd Elizabeth Cox o NEF "Bu'r sawl a oedd yn bresennol yn archwilio i sut yr ydym yn adnabod datblygiad economaidd lleol cynaladwy, a'r cynnig fod angen i fenter (yn ei ystyr ehangaf) gael ei harneisio trwy frwdfrydedd ac ysgogiad pobl leol i gefnogi'r symudiad tuag at ddyfodol mwy cynaladwy".

I agor y drafodaeth cyflwynwyd tri gwahanol ddull.

Alcemi Lleol: dull o gefnogi menter gymunedol sy'n digwydd yn Nwyrain Canolbarth Lloegr gyda chefnogaeth EMDA (East Midlands Development Agency).

Man cychwyn y dull hwn yw'r egni a'r awydd sydd o fewn y gymdeithas i newid yr economi leol, a hefyd brwdfrydedd, sgiliau a dyfeisgarwch naturiol y bobl leol.

Yr egwyddor y tu ôl i Alcemi Lleol yw mai pobl sydd yn byw ac yn gweithio mewn lle, ac eraill sy'n pryderu am ei ddyfodol yw'r rhai gorau i ddarganfod atebion, eu gweithredu a phrofi'r canlyniadau. Mae Alcemi Lleol yn cefnogi pobl frwdfrydig trwy ddarparu: proses hyfforddi i wneud yr hyn y maent am eu gwneud i ail ddyfeisio eu heconomi lleol, ac offer economaidd i helpu i ddatblygu dealltwriaeth o'r economi leol, a chodi ymwybyddiaeth o effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol i'r gweithredu.

Cyd gynhyrchiad: proses lle bydd cleientiaid yn cydweithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol er mwyn gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol. Dull a fydd yn cynnwys:

  • Gwneud defnydd o'r holl asedau cymunedol

  • Adnabod lluosogrwydd gwaith

  • Cydweithio

  • Cynhyrchu rhwydweithiau cymdeithasol

Arian y Gymuned:

  • Cefnogi menter leol

  • Cysylltu pobl â'i gilydd

  • Gwerthuso asedau cymunedol

  • Cydnabod a gwobrwyo cyfraniadau

Dywed NEF fod 7 elfen atgyfnerthol i'w gweld mewn datblygiad economaidd lleol cynaladwy:

  • Amrywiaeth o fusnesau a mentrau (maint, cymdeithasol a phreifat, nwyddau a gwasanaethau)

  • Llif positif o adnoddau ac arian lleol (lluoswr uchel, ail ddefnyddio gwastraff yn lleol)

  • Sylfaen da o asedau lleol (agwedd, sgiliau, gwybodaeth, ffisegol, gwasanaethau ariannol, naturiol)

  • Sector fusnes a chyhoeddus ymatebol â yn gweithio i gryfhau ac i fuddsoddi yn yr economi leol

  • Llais cryf cymdeithasol a dinesig â gweithredaeth, arweiniad, cydlyniad, gwirfoddoli, llais gwleidyddol, cymryd rhan mewn dadl.

  • Cynaladwyedd a lleihad mewn ôl troed amgylcheddol

  • Annibyniaeth - cysylltiadau rhyng-gymunedol byd-eang, defnyddio rhwydweithiau i drawsnewid

Pwysleisiwyd nad cynllun penodedig i newid yw hwn, ac y bydd y dewis o weithredu ym mhob cymuned yn adlewyrchiad o ddyheadau a chyd-destun y datblygiad lleol. Y sialens yw sut y gallwn fod o gymorth i wneud i hyn ddigwydd.

Dywedodd Cydlynydd Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi, Cyril Evans mewn crynodeb o'r digwyddiad "Fod y sialensiau a gododd yn ystod y drafodaeth yn cynnwys: cydnabod yr hyn sydd wedi cael ei wneud yn flaenorol yn y cymunedau lleol gan sefydliadau megis Menter a Busnes, gweithio'n effeithiol gyda sefydliadau sy'n bodoli'n barod a gweithio yn yr Iaith Gymraeg gyda chefnogaeth pobl o du allan i'r ardal. Cafwyd trafodaeth fywiog ynglyn â dyfodol cynaladwy y gymuned leol a'r hyn fydd angen ei wneud i gefnogi hyn."

Aeth Cyril yn ei flaen i ddweud "er mwyn i Cymunedau'n Gyntaf lwyddo, bydd angen iddi fod yn broses wedi'i harwain gan y gymuned, ac os oes unrhyw un am gael mwy o wybodaeth am waith Partneriaeth Cymunedau'n Gyntaf a'i grwpiau thematig, neu am fod yn rhan o'r broses, bydd croeso i chi gysylltu â swyddfa Cymunedau'n Gyntaf."

Ffôn: 01654 700315; E-bost: cyril@powys.gov.uk

Mae llawer o wybodaeth am broses Cymunedau'n Gyntaf Bro Ddyfi i'w gael ar ein gwefan:

Nodiadau ar gyfer Golygyddion

Un o raglenni mwyaf blaengar Llywodraeth Cynulliad Cymru yw Cymunedau'n Gyntaf sydd â'r nod o leihau tlodi a helpu i wella bywydau pobl sy'n byw yn yr ardaloedd tlotaf. Rhaglen tymor hir yw hon a fydd yn parhau am o leiaf deng mlynedd. Bydd yn rhoi cyfle i bobl leol gwneud penderfyniadau drostynt eu hunain am yr hyn sydd ei angen, a'u helpu i wneud hynny ddigwydd.

Amcanion Cymunedau'n Gyntaf yw cynnwys pobl leol er mwyn iddynt gyfrannu tuag at wella eu hardaloedd, dod â nawdd i mewn a chefnogaeth ychwanegol o ystod o ffynonellau i annog ffyrdd newydd o ddelio â phroblemau, ac i ddod â phawb at ei gilydd i wneud eu cymunedau yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.

Gwybodaeth:

Cyril Breeze Evans 01654 700315 neu E-bost cyril@powys.gov.uk.

Top

Back to Main News Page