21st Oct 2004
Fe gynhaliwyd diwrnod dathlu cymunedol ar y 16ed o Hydref, i roi gwybodaeth am y gwaith sy'n cael ei wneud yn y gymuned gan gwahanol fudiadau, ac i ddod ar Gymuned at ei gilydd drwy ddiwrnod o hwyl a dathlu.
Cafodd y diwrnod ei drefnu ac ei ariannu gan Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, a rhaglen Anghydraddoldeb mewn Iechyd (Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol Cymru), a phwrpas y diwrnod oedd i godi ymwybyddiaeth a phroffil y ddwy rhaglen bwysig yma, ac eraill sydd yn weithgar yn y gymuned ym Mro Dyfi,ac i edrych ymlaen at y dyfodol, tra ar yr un pryd yn annog mwy o gyfranogiad gan y gymuned.
![]() Dyma rai cymeriadau annisgwyl a fynychodd y diwrnod dathlu |
![]() Myra Francis o CAMAD, sydd yn aelod o Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, yn cyflwyno copïau o'r asesiadau Tai a Chludiant i Meirion Jones (Clerc Cyngor Cymuned Llanbrynmair) a Cyng Michael Williams (Cyngor Tre Machynlleth). |
Fe ddywedodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi:
"Fe ddaeth llawer o fudiadau lleol at ei gilydd i ddangos y gwaith maent yn gwneud yn y gymuned, ac mi roedd y rhain yn cynnwys: Anghydraddoldeb mewn Iechyd, Cymunedau yn Gyntaf, 'Y Lleng Brydeinig' (Ardal Machynlleth), Croesffyrdd Trefaldwyn, 'Cymdeithas Gelf Cambrian', Cynulliad Cenedlaethol Cymru,'PAVO', Bwrdd yr Iaith, a TWF, Ecodyfi, CAMAD, Llyfrgell Teganau, Chwarae Maldwyn, Masnach Deg, a Gwerin y Coed.
Yn ogystal ar uchod, roedd hefyd sioe bypedau gan Vagabondi, ac adloniant Cymraeg gan Alun Tanlan ac eraill, a oedd wedi ei drefnu gan Llinos Jones Williams, Swyddog Datblygu, Bwrdd yr Iaith Gymraeg".
Aeth y Swyddog Hybu Iechyd, Cerys Humphreys, ymlaen i ddweud : "Yn ychwanegiad ir arddangosfeydd oedd i weld ar dir y Plas, roedd hefyd weithgareddau rhad ac am ddim i blant yn y Ganolfan Hamdden yn cynnwys: paentio wynebau, castell neidio, gweithdy bypedau, sgiliau syrcas, celf a chrefft, gweithio gyda fideo, peiriant (beic) gwneud 'smoothies' a hefyd sesiwn blasu yoga"
Agorwyd y diwrnod gan Myra Francis o CAMAD, a gyflwynodd gopi o asesiad tai a chludiant a gafodd ei gario allan yn yr ardal yn ddiweddar gan Cymunedau yn Gyntaf trwy weithio mewn partneriaeth a CAMAD, Ecodyfi, Cyngor Sir Powys, a Chyngor Cymuned Glantwymyn, gyda chefnogaeth oddi wrth Cyngor Tref Machynlleth a chynghorau Cymunedol Llanbrynmair a Cadfarch, i gynrychiolwyr o'r cynghorau lleol.
Hefyd, mi gyflwynodd Myra wobrau i enillwyr y raffl ar gyfer y rheini a lenwodd a dychwelyd holiaduron ar gyfer y ddau asesiad anghenion.
Byddai Cyril a Cerys yn hoffi diolch yn fawr iawn i'r mudiadau,
grwpiau, ac unigolion, a ddangosodd ei gwaith, yn ogystal â'r rheini
a gynhaliwyd gweithdai, a phawb a fu mor haelionus â rhoi ei amser i fyny i helpu gyda'r trefnu o flaen llaw, ac ar y diwrnod, gan gynnwys aelodau o bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf.
Yn canlyn ymgynghori mewn amrywiad o wahanol ffyrdd a lleoliadau trwy Bro Ddyfi, yn cynnwys digwyddiadau yn ddiweddar ar y cynllun gweithredu a gafodd ei cynnal gan Cymunedau yn Gyntaf a'r Fforwm Lleol, a'r digwyddiad yn canlyn hyn ar y 3ydd o fis Tachwedd, mae'r cydlynydd a'r bartneriaeth yn awr yn gweithio ar Gynllun Gweithredu ar gyfer yr ardal, ac mi ddylai fersiwn ddrafft o hwn fod yn barod yn gynnar yn y flwyddyn nesaf.
Mae darn Bro Ddyfi o safon y we Cymunedau yn Gyntaf Powys wedi ei ddiweddaru yn ddiweddar, ac mae nawr yn cynnwys adroddiad y 'Gwerthusiad Cyfranogol' a gafodd ei gario allan yn yr ardal gan 'Insight Social Research Ltd', ar ôl i ardal Bro Ddyfi gael ei dewis gan Rhwydwaith Cefnogi Cymunedau yn Gyntaf fel un o ddim ond pum ardal beilot drwy Gymru.
Mae'r safon hefyd yn cynnwys yr adroddiadau a'r canlyniadau ar yr Asesiad o Anghenion Cludiant a gafodd ei gynal yn yr ardal ynghynt eleni, ynghyd â chopi o Gytundeb y Bartneriaeth.
Rydym yn dal i aros am adroddiad yr Asesiad o Dai Fforddiadwy i gael ei gyfieithu, cyn i hwn hefyd gael ei gynnwys
Mae safon y we Cymunedau yn Gyntaf Powys yn cynnwys gwybodaeth ar y tair ardal Cymunedau yn Gyntaf sydd ym Mhowys, ac mae yn werth i chi gael golwg ar www.commfirstpowys.org.uk.
Gallwch hefyd gael gwybodaeth ar unrhyw fater trwy gysylltu â swyddfa Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi.
Hoffem groesawu bedwar aelod newydd o'r bartneriaeth, gyda Helen Hughes a Ceris Rees yn cynrychioli'r gymuned yn Llanbrynmair, tra bod Martin Ashby wedi cymryd lle Eric Hughes fel un o gynrychiolwyr y gymuned o Fachynlleth, ac yn olaf, Llinos Jones-Williams, sydd yn swyddog datblygu yn ardal Machynlleth gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Yn anffodus ffordd bynnag, mor gynted ag yr ydym wedi dod i arfer gweld Llinos ar hyd y lle, mae hi yn ein gadael ni i gymryd swydd newydd yn nes at ei chartref yn y Bala.
Mi hoffem felly ddymuno pob lwc iddi hi yn ei swydd newydd yn Glan Llyn, ac y gobaith yw y bydd y person a gaiff ei benodi fel ei olynydd, hefyd yn cymryd ei lle ar bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf.
A oes gennych ddwy neu dair awr y mis yn rhydd?
Os oes, dyma gyfle i chi allu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ardal - felly ymunwch a ni nawr!
Dywedodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi "Mae yn dal i fod lle i fobl sydd yn byw neu yn gweithio yn ardal Powys o Fro Ddyfi i ymuno â phartneriaeth newydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi.
Mae'n swr bod na thipyn o fobl yn yr ardal a theimladau cryf iawn am rywbeth sydd yn digwydd, neu ddim yn digwydd ym Mro Ddyfi ar hyn o bryd, ond hwyrach heb fod a'r awydd neu yr hyder, neu yn wir heb gael y cyfle i leisio eich barn o'r blaen.
Wel dyma gyfle gwych i chi drio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a pharhaol i'r ardal brydferth yma".
Cafodd Siân Britland ei phenodi yn ddiweddar fel Gweinyddes newydd ar gyfer rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi.
Mae Siân, sydd yn byw yn Nolgellau, yn rhugl yn y Gymraeg, ac
Mi gafodd ei haddysgu yn Ysgol y Gader cyn cwblhau cwrs ar 'Fusnes a Gweinyddu' yng Ngholeg Meirion Dwyfor yn ddiweddar.
Am wybodaeth ychwanegol ar unrhyw agwedd o rhaglen Cymunedau yn Gyntaf, mae croeso i chi ddod mewn cyswllt a ni yn:
Swyddfa Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, Ty Bro Ddyfi, 52 Heol Maengwyn, Machynlleth, Powys, SY20 8DT.
Ffôn: 01654 700315 neu e-bost cyril@powys.gov.uk neu sianb@powys.gov.uk
25th Jun 2010
5th Mar 2010
20th Nov 2009
6th Nov 2009
6th Oct 2009
6th Oct 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
3rd Aug 2009
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys