Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Newyddion > Teithio o amgylch Bro Ddyfi

Teithio o amgylch Bro Ddyfi

1st May 2005

Teithio o amgylch Bro Ddyfi

Asesiad o flaenoriaethau cludiant y bobl leolAsesiad o flaenoriaethau cludiant y bobl leol

Am yr adroddiad llawn cliciwch yma (Dogfen Word 848kB). Neu cycylltwch a Cyril Evans 01654 700315 am gopi wedi ei brintio.

Crynodeb

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar sut fyddai pobl yn y rhan o Fro Ddyfi sy'n perthyn i Bowys yn hoffi gweld cludiant yn cael ei wella.

Mae'n nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer gweithredu, wedi eu hamcanu'n bennaf at ddiwallu anghenion lleol, er byddent yn debygol o fod o fudd i ymwelwyr, hefyd. Gyda'i gilydd, gallai'r camau hyn gynnig rhwydwaith cludiant llawer gwell a fyddai, yn ei dro, yn fanteisiol i feysydd eraill sy'n destun pryder i Cymunedau yn Gyntaf, yn enwedig felly o safbwynt iechyd, hyfforddiant a'r economi.

Profir lefel uchel o anfodlonrwydd gyda'r gwasanaethau bws ym mhob ardal ar wah ân i Fachynlleth ei hun a'r pentrefi yn union i'r gogledd (e.e. Aberllefenni, Ceinws).

Tu hwnt i'r ardaloedd hyn, mynega rhwng 77% a 100% o'r trigolion fod y gwasanaeth naill ai'n eithaf gwael neu'n wael iawn.

Y prif welliannau y byddai pobl yn hoffi gweld eu gwireddu ydyw:

  • Mwy o fysus ar brif lwybrau teithio, yn enwedig Machynlleth i'r Drenewydd.
  • Rhyw fath o fws cymunedol dau ddiwrnod yr wythnos i bentrefi sydd wedi eu lleoli oddi ar y priffyrdd.
  • Gwell gwasanaethau bws gyda'r nos ac ar ddydd Sul.
  • Bysus sydd yn cysylltu â threnau.
  • Amserlenni cyfredol yn y safleoedd bysus, a gwell gwybodaeth yn gyffredinol.
  • Bysus sy'n cael eu cynnal a'u cadw'n well, ag iddynt fynedfeydd llawr isel a llefydd addas i feiciau, cadeiriau gwthio a bagiau siopa.

Roedd llawer o enghreifftiau o amserlenni bysus nad ydynt yn gweithio yn ymarferol: er enghraifft, yn cynnig dewis o naill ai 40 munud neu 4 awr ar gyfer siopa ym Machynlleth; neu'n cludo pobl i'r gwaith yn y bore ond nid yn dod â hwy adref yn ôl gyda'r hwyr, neu fel arall.

y bws wrth CelticaTybid fod gwasanaethau trên yn well na'r gwasanaethau bysus.

Y prif newidiadau y byddai pobl yn hoffi eu gweld ydyw:

  • Arosfannau trên 'ar gais' rhwng Machynlleth a Chaersws.
  • Gwell gwasanaethau trên ar benwythnosau a chyda'r min nos.
  • Bysus wedi eu hamserlennu'n fwriadol i gyfarfod a chysylltu â threnau.
  • Gwasanaeth bob awr rhwng Aberystwyth ac Amwythig.

Roedd yr amgylchiadau ar gyfer cerdded a beicio yn achos cryn bryder.

Mewn pentrefi sydd ar y priffyrdd, roedd 66% yn dweud fod y palmentydd yn eithaf gwael neu'n wael iawn; a dywedodd dros hanner y rhai a hlwyd fod cyflymder traffig yn rhy uchel o lawer.

Roedd pobl eisiau gweld y canlynol yn cael eu gwireddu:

  • Troed-lwybrau a beic-lwybrau yn dilyn trywydd y priffyrdd, yn enwedig o Fachynlleth i Benegoes a Derwenlas; a hefyd o Gwm Llinau i Gemais ac i Lanbrynmair. Dadleuai nifer o bobl o blaid cael y rhain ar bob priffordd gan gynnwys, er enghraifft, y briffordd rhwng Machynlleth ac Aberystwyth.
  • Cyfyngiadau cyflymder is, a gorfodaeth fwy grymus ar gyflymder trafnidiaeth drwy bentrefi Cemais, Llanbrynmair, Comins-coch, Derwenlas a Machynlleth.
  • Gwell arwyddion a gwell gwaith cynnal ar lwybrau 'hawliau tramwy cyhoeddus'.
  • Gwell gwaith glanhau ar lonydd a llwybrau oddi ar y prif strydoedd ym Machynlleth.

Holwyd barn pobl am wyth gwelliant penodol mewn perthynas â chludiant. Dyma nhw:

  • Rhannu bws-dacsi, 'yn ôl y gofyn' gyda'r hwyrnos ac ar benwythnos ar y prif ffyrdd allan o Fachynlleth. Dywedodd 55 Ð 81% o bobl ar y gwahanol goridorau y byddent naill ai'n bendant yn eu defnyddio, neu efallai'n ystyried eu defnyddio.
  • Sefydlu llwybrau cerdded / llwybrau beicio i Benegoes a Derwenlas. Atebodd 90% o drigolion Penegoes ac 81% o drigolion Derwenlas y byddent yn eu sicr o'u defnyddio.
  • Cynllun rhannu car, a fyddai'n bennaf o werth i'r 60% o bobl sydd â swyddi beunyddiol yn Aberystwyth, Machynlleth a'r Drenewydd, yn enwedig y rhai hynny sy'n byw mewn pentrefi lle nad oes ganddynt wasanaeth bws.
  • Llwybrau diogel i'r ysgol. Y rhannau mwyaf defnyddiol o'r rhain fyddai sefydlu llwybrau cerdded a/neu lonydd beicio o Benegoes a Derwenlas (parthed ysgolion Machynlleth) a llwybr o bont 'Lloyd George' i ganol y pentref (ysgol Llanbrynmair).
  • Bws cymunedol 'Cyswllt Pentrefi', a fyddai neu a fyddai 'efallai' yn ddefnyddiol iddynt, yn ôl atebion 50% o'r cartrefi mewn pentrefi ar lwybrau posibl. Y dewis mwyaf poblogaidd oedd bws i redeg ar ddyddiau Gwener neu Sadwrn (yn ogystal â diwrnod marchnad) a roddai 2 - 3 awr i bobl i'w dreulio'n y dref, - yn y bore, o ddewis.
  • Clwb ceir. Roedd y diddordeb cryfaf yn hwn ymhlith trigolion Machynlleth, lle y mynegodd 84 o bobl y byddai'r clwb yn ddefnyddiol neu 'efallai' yn ddefnyddiol.
  • Olwynion i'r Gwaith. Byddai tua chwarter o'r cartrefi cymwys (yn ddichonol) yn ei ddefnyddio neu efallai'n debygol o'i ddefnyddio.

Yn yr adroddiad edrychwyd a fyddai gwelliannau cludiant ar raddfa fechan yn gallu helpu'r amgylchedd a lleihau cyfaint y traffig.

Canfyddwyd fod gyrwyr yn barod i dderbyn y syniad o deithio ar gludiant cyhoeddus, ar droed neu ar feic, yn achos cymaint â thraean o deithiau car i'r gwaith, a hefyd roedd hyn naill ai'n bosib ar hyn o bryd neu fe allai ddigwydd yn weddol rwydd.

Y prif welliannau a fyddai'n hyrwyddo'r cyfryw symudiad fyddai sicrhau'r canlynol:

  • Gwybodaeth dargedig parthed y gwasanaethau sydd eisoes ar gael (e.e. targedu cynllunwyr teithiau personol), neu wybodaeth a help i ddechrau cerdded neu feicio.
  • Datblygu a hybu cronfa ddata o deithwyr a fo'n rhan o gynllun rhannu car.
  • Cludiant cyhoeddus allan - yn ogystal ag yn ôl - ar ddechrau a diwedd diwrnod gwaith, rhwng Y Drenewydd, Machynlleth a Thywyn; gyda thocynnau y gellid eu cyfnewid ar fysus a threnau, y naill a'r llall.
  • Llwybrau troed / llwybrau beic rhwng Derwenlas, Penegoes a Machynlleth.

Ar gyfer tripiau siopa, lle defnyddir car ar gyfer 73% ohonynt ar hyn o bryd, gallai gwasanaeth danfon nwyddau i'r cartref fod yn boblogaidd ac effeithiol i leihau teithiau car.

Nodwyd pymtheg pwnc fel blaenoriaethau ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Dyma nhw:

  • Bws 'Cyswllt Pentrefi'.
  • Llwybrau cerdded / llwybrau beicio, o Fachynlleth i Dderwenlas a Phenegoes.
  • Datblygu a hybu cronfa ddata o deithwyr a fo'n rhan o gynllun rhannu car.
  • Gwell gwybodaeth a marchnata mewn perthynas â gwasanaethau cludiant cyhoeddus, ac ymroi i'r gorchwyl o dargedu a hyrwyddo'r arferiad o gerdded a beicio.
  • Gwasanaeth bws amlach o Fachynlleth i'r Drenewydd, o bosibl yn defnyddio bws-dacsis 'ar gais' (neu 'archeb-gais').
  • Gwasanaeth bws neu fws-dacsi ar nos Sadwrn.
  • Adolygu'r amserlenni bws presennol, i ddiwallu yr anghenion lleol yn well, o ran anghenion siopa ac anghenion mynychu gwaith, y naill yn ogystal â'r llall.
  • Bysus mwy hygyrch (gyda gwell cyfleusterau i fynd i mewn ag allan ohonynt).
  • Mwy o gyfyngiadau ar gyflymder a mwy o rymuso'r gyfraith ar reolau cyflymder, mewn pentrefi sydd ar y priffyrdd.
  • Troed-lwybr a/neu beic-lwybr yn Llanbrynmair.
  • Datblygu clwb ceir ym Machynlleth.
  • Gwasanaeth danfon nwyddau siopa i'r cartref.
  • Gwasanaeth trên bob awr o Aberystwyth i Amwythig.
  • Lob•o am arosfan trên rhwng Machynlleth a Chaersws.

 Top

Back to Main News Page