Rydych yma : Hafan > Bro Ddyfi Hafan > Amdanom ni > Partneriaeth

Y Bartneriaeth

Arweinir y broses gan Bartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi, sydd hefyd yn gweithredu fel grŵp craidd y Fforwm Cymunedol Lleol ac mae'n defnyddio  Cyngor Sir Powys fel y corff cyfrifol i ddal cyllid a chyflogi staff ar ei rhan. Yn y mwyafrif o achosion, ni fydd y Bartneriaeth yn gweithredu prosiectau ei hunan, gan ddewis gweithio gyda phartneriaid lleol a rhanbarthol i ddatblygu a sicrhau arian ar gyfer mentrau a flaenoriaethwyd. Mae'r Bartneriaeth a'i gweithgorau yn cael eu ffurfio o gynrychiolwyr sefydliadau perthnasol yn ogystal ag unigolion o'r pedair ward. Y bwriad yw cael pobl leol i weithio gyda'i gilydd i wneud Bro Ddyfi yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo.

Drwy ei grwpiau thematig, mae'r Bartneriaeth yn archwilio pa gamau y gall cymunedau fwrw ymlaen gyda hwy (ar adegau drwy grwpiau gwirfoddol sy'n bodoli'n barod) a pha rai all ddisgwyl y byddant yn cael eu hariannu neu eu cyflwyno gan gyrff allanol.  Bydd y canolbwyntio ar y camau hynny a fyddant yn gallu elwa'r bobl mwyaf difreintiedig ac sy'n adeiladu sgiliau a hyder.

Mae Cynllun Gweithredu presennol Bro Ddyfi yn tynnu sylw at bynciau o dan y saith themau canlynol:  Tai  -  Cludiant a Chyfathrebu - Addysg a Hyfforddiant  -  Cefn Gwlad a'r Amgylchedd  -  Economi a Gwaith  - Gweithgareddau Cymunedol  -  Iechyd a Lles y Gymuned.

Mae'r Bartneriaeth wedi comisiynu ymgynghorwyr lleol i wneud Archwiliad a Dadansoddiad o Angen cynhwysfawr o weithgareddau a gwasanaethau i blant a phobl ifanc (0-19 oed) ar draws Bro Ddyfi, yn ogystal â phrosiect ymchwil ‘Prentisiaeth yn y Diwydiant Adeiladu’.

AELODAU Y BARTNERIAETH

(Yn cynnwys y sectorau a’r ardaloedd y maent yn cynrychioli)

Y GYMUNED

William N  Owen               - Cymuned        -  Glantwymyn

Ceris Rees                       - Cymuned        -  Llanbrynmair

Helen Hughes                   - Cymuned        -  Llanbrynmair      

John Edwards             - Cymuned         -  Machynlleth

Christopher Foster          - Cymuned         -  Machynlleth  

GWIRFODDOL A BUSNES

Andy Rowland           - Gwirfoddol                 - Machynlleth

Brenda Hughes         - Gwirfoddol                 - Machynlleth

Phil Roe                    - Gwirfoddol /Busnes   - Allan o'r Ardal

 

STATUDOL / SECTOR CYHOEDDUS

Gwilym Fychan (Cynghorwr Sir)                                -  Statudol  - Glantwymyn 

Nia Llywelyn (Bwrdd yr Iaith Gymraeg)                       -  Stadudol  - Glantwymyn

Sarah Hope (TÎm Iechyd Cyhoeddus Powys - NHPS)   -  Stadudol  - Allan o'r Ardal
PCSO Caron Monk (Tîm Plismona Bro Machynlleth)    -   Stadudol  - Bro Ddyfi

 

 

Ymunwch a Ni Nawr!!

A oes gennych ddwy neu dair awr y mis yn rhydd?
Os oes, dyma gyfle i chi allu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ardal.  Mae lle i fobl sydd yn byw neu yn gweithio yn ardal Powys o Fro Ddyfi i ymuno â phartneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi.

Pam Ymuno?

Dywedodd Cyril Evans, Cydlynydd Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi:


" Mae'n swr bod na thipyn o fobl yn yr ardal a theimladau cryf iawn am rywbeth sydd yn digwydd, neu ddim yn digwydd ym Mro Ddyfi ar hyn o bryd, ond hwyrach heb fod a'r awydd neu yr hyder, neu yn wir heb gael y cyfle i leisio eich barn o'r blaen. Wel dyma gyfle gwych i chi drio gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i'r ardal brydferth yma".

Cysylltwch a ni am fwy o wybodaeth.