Mae Cymunedau yn Gyntaf yn un o brif raglenni Llywodraeth Cynulliad Cymru, sydd yn bodoli er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl lleol i chwarae rhan brwdfrydig i ddylanwadu dyfodol eu cymunedau. Mae mwyafrif o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf yn ardaloedd trefol bychain, a ddewiswyd yn unol ag ystadegau amddifadiad. Nid yw Bro Ddyfi ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig, ond mae gennym bocedi o amddifadiad gyda phroblemau sy’n nodweddiadol o ardal wledig sef tlodi cudd, cymunedau pell ac unig, mynediad gwael at wasanaethau a chyflwr tai sy'n dirywio.
Mae ardal Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi yn cynnwys y rhan honno o Bowys sydd yn Nyffryn Dyfi, sef wardiau Machynlleth, Cadfarch, Llanbrynmair a Glantwymyn. Mae'n un o'r ardaloedd mwyaf sydd wedi'u cynnwys yn y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac yn un o'r rhai mwyaf gwledig a mwyaf Cymraeg ei hiaith. Mae'n unigryw yng Nghymru am ei bod yr unig ardal Cymunedau yn Gyntaf sy'n gofalu am yr un ardal yn union â Fforwm Lleol y Strategaeth Gymunedol Leol.
5th Mar 2010
Byddem yn ddiolchgar dros ben pe baech cystal â threulio…
20th Nov 2009
Wrth ddisgwyl i’r tywydd oer gyrraedd, mae angen cymorth ar…
6th Nov 2009
Mae ymgynghoriadau trwy ardal Cymunedau yn Gyntaf Bro Ddyfi wedi…
Cymunedau yn Gyntaf Powys | Bro Ddyfi | Oldford | Ystradgynlais
© 2007 Cymunedau yn Gyntaf Powys